Mae Enlli yn croesawu cannoedd
o ymwelwyr dyddiol yn ystod misoedd yr haf.
Ni chaniateir
cŵn nac anifeiliaid anwes eraill ar yr ynys.
Gallwch drefnu
taith gyda thywysydd drwy drefniant.
Gall ynysoedd fod yn beryglus.
Mae croeso i ymwelwyr ddilyn
y llwybrau a nodir, ond gofynnir
i chi ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch:
| Byddwch
yn ofalus bob amser |
| Peidiwch â mentro
ar ochr ddwyreiniol serth y mynydd |
| Dylech
osgoi’r clogwyni serth a’r arfordir
creigiog |
| Peidiwch â mentro
ymdrochi yn y môr yn unrhyw le o amgylch
yr ynys |
| Gwisgwch
ddillad ac esgidiau addas a dilynwch y llwybrau
a nodir |
| Cauwch
y giatiau a pheidiwch â cherdded ar y
cloddiau |
| Peidiwch
ag ymyrryd â’r bywyd gwyllt – gwyliwch
y morloi oddi ar y glaswellt a chadwch draw
oddi wrth adar sy’n nythu |
| Parchwch
breifatrwydd y bobl sy’n byw ac aros
ar yr ynys |
| Ewch â’ch
ysbwriel gartref gyda chi |
Gallwch archebu taith
am y dydd drwy ffonio Cwmni Fferi Enlli:
08458 11 3655 neu 07836293146 neu 07896111983
www.enllicharter.co.uk
|