|
Yn dibynnu ar y tywydd, bydd ymwelwyr am
yr wythnos yn croesi ar ddydd Sadwrn o Borth
Meudwy (ger Aberdaron). Pe bai i'r croesi
gael ei ohirio oherwydd y tywydd, byddwch
yn croesi ar y diwrnod braf cyntaf canlynol.
Mae'r broses o gludo teithwyr a;u paciau
i;r ynys ac oddi yno yn eithaf cymhleth
felly ceisiwch fod yn amyneddgar.
Dylech gadarnhau;r trefniadau ar gyfer
croesi drwy ffonio'r Swyddfa ar y dydd Llun
neu dydd Mawrth cyn i chi groesi : ffoniwch
08458 11 22 33 yn ystod oriau swyddfa. Byddwch
yn cael gwybod pryd i gyfarfod y gwch a
dylech gadarnhau'r nifer o bobl fydd yn
eich grwp. Fe'ch cynghorir i wisgo dillad
glaw ar gyfer croesi.
Bydd hefyd rhaid ffonio rhif arbennig ar
y nos Wener cyn croesi ar ol 7 yh i gael
manylion am amser croesi'r cwch ar y dydd
Sadwrn. Y rhif yw 07971769895
|