Defnyddid y bachau yn y nenfwd, a ddefnyddir heddiw i ddal y lampau nwy, i grogi cig moch wedi ei halltu.
Mae'n agos at dwr yr Abaty a chapel yr ynys. Yn ddiweddar mae'r Ymddiriedolaeth wedi gosod stôf amldanwydd yn yr ystafell fwyta ac oherwydd hyn mae'r ty yn boblogaidd yn ystod y gwanwyn cynnar ac yn hwyr yn yr hydref.
Mae'r ty yn ddrych-ddelwedd o Hendy ac yn aml bydd dau deulu, neu grwp mawr sy'n dymuno bod yn agos at ei gilydd, yn llogi'r ddau dy.
Mae golygfeydd godidog i gyfeiriad Iwerddon. Mae gardd gysgodol y tu ôl i'r ty. |