Cyfle arbennig.
Yn gynnar ym mis Medi 2000, roedd un o’r
gwylwyr adar a oedd yn aros yn Cristin yn defnyddio
afalau i ddenu adar. Yn dilyn sgwrs rhwng yr adarydd
ac ymwelydd arall, Mr Ian Sturrock, gwnaed darganfyddiad
cyffrous.
Deallodd Mr Sturrock, arbenigwr ar goed ffrwythau,
bod yr afalau yn dod o goeden gnotiog a cham ar
ochr ddeheuol Plas Bach. Er bod trigolion yr ynys
yn cadarnhau bod cenedlaethau o ynyswyr wedi mwynhau’r
afalau hyn, nid oedd neb yn gwybod pa fath o afalau
oeddynt. Roedd yn eithaf posib mai’r ffrwyth
pinc gydag arogl lemwn a blas amheuthun oedd yr
unig oroeswyr o berllan a oedd yn cael ei meithrin
ar y safle gan fynaich dros 1,000 o flynyddoedd
yn ôl.
Sylweddolodd Mr Sturrock bod yr afal yn un anghyffredin. “Doeddwn
i ddim yn ei adnabod, felly mi es i â fo
at arbenigwyr ar wahanol afalau Prydain – Brogdale
Horticultural Trust yng Nghaint”, meddai
Mr Sturrock.
Yno archwiliwyd yr afalau gan Dr Joan Morgan,
un o brif arbenigwyr afalau Prydain, a’i
datganiad hi oedd mai dyma afal prinnaf y byd.
Fe’i disgrifiodd fel afal gyda streipiau
pinc amlwg dros hufen, yn wrymiog a gyda chorun
uchel.
Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth ofyn
i Mr Sturrock gymryd toriadau o’r goeden
y gwanwyn canlynol i’n galluogi i dyfu mwy
o’r coed unigryw hyn.
|