Wedi i chi aros ar Enlli am y
tro cyntaf, byddwch eisiau dod yn ôl dro
ar ôl tro. Mae amryw o dai ar gael ar osod
ar gyfer gwyliau – mae’r prisiau yn
amrywio yn ôl maint y tŷ.
O’r saith o dai hunan-arlwyaeth
sy’n cael eu gosod gan yr Ymddiriedolaeth,
mae dau yn gyn-ffermdai sylweddol sy’n sefyll
ar wahân, mae tri yn dai pâr sy’n
gyn-ffermdai sylweddol, mae un yn fwthyn â chroglofft
a’r olaf yn stabal wedi ei newid yn lety.
Maent i gyd yn gadarn ac yn llawn
cymeriad.
Cliciwch yma am rhagod o fanylion am Wyliau
Wythnos.
|