Saif Ynys Enlli tua 2 filltir (3 cilomedr)
ar draws Swnt Enlli o Benrhyn Llŷn, Gogledd Cymru.
Mae’r ynys yn 1.5 milltr (2.5 cilomedr) o hyd ac, ar ei
man lletaf, mae’n chydig dros hanner milltr (1 cilomedr) ar draws. Mae
Mynydd Enlli yn codi i uchder o 167 metr ac mae
arwynebedd o 180 hectar i’r ynys i gyd, y
rhan fwyaf ohono yn cael ei amaethu.
Prynwyd yr
ynys gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ym 1979 ac
fe’i rheolir gan yr Ymddiriedolaeth mewn
cydweithrediad â Chyngor Cefn Gwlad Cymru
a CADW. Dynodwyd yr ynys yn Warchodfa Natur Genedlaethol,
yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn
rhan o Ardal Amgylcheddol Arbennig Pen Llŷn.
|