Er bod amryw o ymwelwyr â’r
ynys yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif wedi sylwi
bod amrywiaeth o weddillion hanesyddol i’w
gweld ar yr ynys, ni wnaed astudiaeth hyd yr 1960au.
Bellach mae amryw o adeiladau
pridd wedi eu hadnabod, rhai ohonynt yn dyddio’n ôl ddwy neu
dair mil o flynyddoedd. Yn eu mysg mae cytiau Gwyddelod
crynion a gweddillion adeiladau hirsgwar a leolwyd
yn bennaf ar deras bychan cysgodol ar y mynydd
neu mewn grwpiau ar Benrhyn Gogor ym mhen gogleddol
yr ynys. Credir mai adeiladau amaethyddol sy’n
dyddio o’r canol oesoedd yw’r olion
hirsgwar.
Yr heneb amlycaf ar yr ynys
yw twr yr abaty o’r drydedd ganrif ar ddeg. Yn y capel
mae carreg gerfiedig gydag arysgrif sy’n
dyddio o’r nawfed ganrif. Cafwyd hyd i sawl
safle claddu yng nghyffiniau’r Abaty sy’n
egluro i raddau y chwedl bod ugain mil o saint
wedi eu claddu ar Enlli, er bod amheuaeth ynglŷn â’r
nifer.
Ar ochr y lôn bresennol, gwelir hefyd
weddillion hen ffermdai. Archwiliwyd un o’r
rhain, Tŷ Newydd, gan Christopher Arnold ym 1995,
a chafwyd tystiolaeth bod y tŷ wedi ei adeiladu
ar safle amryw o feddi. Cafwyd hyd i ddarn o arian – ceiniog
arian yn dyddio yn ôl i’r 1070au – yng
ngheg un o’r sgerbydau a ddadorchuddiwyd
yn ystod y gwaith cloddio.
|