Tŵr yr Abaty
Mae’r tŵr – yr adeilad hynaf sy’n
parhau ar ei draed ar yr ynys – yn rhan o
weddillion Abaty Awstinaidd y Santes Fair o’r
drydedd ganrif ar ddeg. Ni ŵyr neb beth oedd union
faint yr adeiladau oedd yn gysylltiedig â’r
Abaty, ond mae’n debygol fod y safle wedi
cynnal cymuned sylweddol o fynaich.
Y Capel
Adeiladwyd y Capel yng nghysgod y mynydd ar ben
gogleddol yr ynys, nid nepell o’r Abaty.
Fe’i codwyd yn yr 1870au pan adnewyddwyd
y ffermdai. Dywedir i’r trigolion gael
dewis capel neu harbwr newydd gan y tirfeddiannwr
yr Arglwydd Niwbwrch, ac iddynt benderfynu ar
gapel.
Yr Odyn Galch
Adeilad bychan sgwâr yw’r odyn galch
sydd erbyn hyn yn segur. Saif ar ochr y lôn
sy’n arwain o’r brif lôn i Tŷ
Pellaf a ’Dyno Goch, lle’r oedd chwarel
galch fechan. Byddai wedi cael ei defnyddio’n
helaeth yn ystod cyfnod ail-godi’r tai yn
yr 1870au ac yn ddiweddarach. Fel llawer o’r
adeiladau ar Enlli, fe’i hadnewyddwyd i’w
chyflwr presennol gan y pensaer Douglas Hague ym
1986.
Yr Ysgol
Codwyd yr adeilad, a fu unwaith yn gapel yr ynys,
uwchben y lôn ger Cristin ar ddiwedd y
ddeunawfed ganrif neu ddechrau’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Fe’i defnyddid yn rheolaidd
fel ysgol nes y gadawodd yr athro cyflogedig
olaf ym 1953 a bellach fe’i defnyddir fel
man cyfarfod.
Y Storws
Mae’n debyg mai’r Storws yw’r
adeilad cyntaf – heblaw am y Goleudy – a
welwch wrth lanio yn y Cafn. Adeiladwyd yr adeilad
hir, isel o gerrig gyda’i do trawiadol wedi
ei orchuddio â chen llachar, ar ddiwedd y
ddeunawfed ganrif neu ddechrau’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Mae’r fainc hir yng nghysgod
yr adeilad yn hoff le i eistedd a gwylio pobl yn
mynd a dod yn y Cafn.
|