Yr Ynys
Yr Ymddiriedolaeth
Gwibdaeithiau
Aros ar Enlli
newyddion
siop
CysylltuEnglish
Ynys Enlli - Bardsey Island
 
 

 

Ymunwch â’r Ymddiriedolaeth
Gwnewch eich rhan i sicrhau dyfodol tymor hir yr ynys – ac arbed arian ar eich gwyliau!

rhagor o wybodaeth

.....................................................

 

Adran Aelodau’r Ymddiriedolaeth

ewch i mewn yma

.....................................................

 

Aros ar Ynys Enlli!
Yr holl wybodaeth angenrheidiol am wyliau wythnos ac ymweliadau dydd.

rhagor o wybodaeth

.....................................................

 

Afal Enlli
Tyfwch goeden afal arbennig Enlli. Rhywbeth i’ch atgoffa o Enlli yn eich gardd eich hunan.

rhagor o wybodaeth

.....................................................

 

 

 
 
 

 

Dynodwyd Ynys Enlli yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Oherwydd ei bywyd gwyllt mae hi’n bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r amrywiaeth eang o ddiddordeb arbennig yn cynnwys adar, planhigion blodeuol prin, cennau, llysiau’r afu a mwsoglau, glaswelltir arfordirol a rhostir, silffoedd clogwyni’r môr a bywyd gwyllt y môr.

Mae’n ffurfio rhan o sawl safle mwy o amgylch arfordir y tir mawr a moroedd Penrhyn Llŷn, sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol oherwydd eu bywyd gwyllt rhagorol, yn enwedig eu hadar, cynefinoedd clogwyni’r môr a bywyd gwyllt y môr.

Mae hyn yn peri bod cyfrifoldeb ar Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, fel perchnogion, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCG), fel corff cynghori’r llywodraeth ar gadwraeth bywyd gwyllt, i sicrhau bod bywyd gwyllt yr ynys yn cael ei warchod ar gyfer y dyfodol. Mae’r Ymddiriedolaeth a’r CCG, mewn partneriaeth, wedi penodi Swyddog Maes a Chyswllt yn y blynyddoedd diweddar i helpu pawb sydd yn ymwneud ag Enlli i reoli’r ynys mewn dull a fydd yn gofalu am y bywyd gwyllt ac a fydd hefyd yn gymorth i bobl fwynhau a deall mwy am yr agwedd arbennig hon o’r ynys.

Ar hyd y cyrion arfordirol, mae blodau serennyn y gwanwyn yn ffurfio carpedi glas yn y gwanwyn. Wedi iddo ddarfod daw twmpathau trwchus o glustog Mair a chlystyrau o deim, ac ymhellach ymlaen, clychau’r grug a grug y mêl. Ymysg y planhigion mwyaf prin mae meillionen y gorllewin a thafod y neidr bach. Ymysg y planhigion mwyaf nodedig mae’r cennau gydag amrywiaeth o fwy na 350 rhywogaeth yn tyfu ar Enlli.

Mae’r morloi llwyd yn olygfa gyfarwydd ym maeau creigiog yr ynys ac mae nifer fechan yn magu yma bob blwyddyn.

Sefydlwyd Gwylfa Adar a Maes Ynys Enlli ym 1953. Saif yr ynys ar lwybrau ymfudo llawer o adar yn y gwanwyn a’r haf ac mae’n gartref i frain coesgoch a phiod môr; yma hefyd gwelir y crëyr glas, yr hebog tramor, tinwen y garn, telorion a’r dylluan fach, yn ogystal ag adar môr fel yr hugan, y llurs a’r fulfran werdd. Yn ôl tystiolaeth ddiweddar mae’n debyg fod y pâl yn dechrau nythu ar yr ynys hefyd.

Mae’r moroedd o amgylch yr ynys, gyda’u fforestydd o wymon strap, yn llawn o fywyd gwyllt. Yn y pyllau creigiog gwelir buchod coch, crancod a physgod bychan ac yn y dyfroedd dyfnach, bwydwyr hidlo megis sbyngau a chwistrelli môr yn crwydro’r creigiau. Mae un rhywogaeth oddi ar y lan, yr anemoni môr melyn, yn fwy cyffredin ym Môr y Canoldir. Yn aml gwelir dolffiniaid Risso a llamhidyddion harbwr yn y dyfroedd oddi ar yr ynys.

 

 

Yr Ynys : Hanes : Archeoleg : Bywyd Gwyllt : Amaethyddiaeth
Ysbrydolrwydd : Enlli a Chelf : Llyfryddiaeth : Nodweddion Tir : Map

 

 

 

Ffotograffiaeth gan George Stoyle

Morlo Llwyd

Ffotograffiaeth gan George Stoyle

Aderyn drycin Manaw

Cysylltir yr ynys yn bennaf, fodd bynnag, â’r aderyn drycin Manaw, neu’r mecryll coc i frodorion Enlli. Mae nythfa o rhwng deg mil ac un fil ar bymtheg o adar ar yr ynys.

 

Dylunio a gwaith cynnal gan WiSS

Swyddfa Enlli, Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7TT Rhif Ffôn: 08458 11 22 33