Rheolir Ynys Enlli gan ymddiriedolaeth
elusennol ers 1979. Ariennir yr Ymddiriedolaeth
drwy danysgrifiadau aelodaeth, grantiau a rhoddion.
Gwerthwyd yr ynys gan yr Arglwydd Niwbwrch i’r
Anrhydeddus Michael Pearson (Arglwydd Cowdrey)
ym 1972, ac fe gyfunodd y ffermydd i greu tenantiaeth
unigol.
Llwyddodd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
i brynu’r ynys oddi wrtho ym 1979, yn dilyn
apêl a arweiniwyd gan gefnogwyr brwdfrydig
Enlli ar hyd a lled y DU ac a gefnogwyd hefyd gan
lawer o bobl academaidd a phobl gyhoeddus yn ogystal â’r
eglwys yng Nghymru. Mae’r Ymddiriedolaeth
yn elusen gofrestredig. Amcanion yr Ymddiriedolaeth yw:
-
gwarchod bywyd gwyllt ac ecosystem bregus yr
ynys
- annog pobl i ymweld â’r
ynys fel man o harddwch naturiol a chyrchfan
- ymgymryd
ag astudiaethau gwyddonol a rhaglenni addysg
- gwarchod yr adeiladau
a’r safleoedd
archeolegol
- amaethu er budd cynefinoedd amrywiol
yr ynys
Mae Cyngor yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys Cadeirydd
ac oddeutu ugain o ymddiriedolwyr. Mae’r
Cyngor yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Mae
is-bwyllgorau – y Pwyllgor Ariannol, y Pwyllgor
Gwyddonol, y Pwyllgor Natur Ysbrydol, y Pwyllgor
Adeiladau a’r Pwyllgor Addysg a Dehongli – yn
adrodd yn ôl i’r Cyngor ac yn ei gynghori.
Gweithredir gwaith yr Ymddiriedolaeth
drwy swyddfa Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, gweithwyr
stâd a staff dros dro eraill. Noddwyr yr
Ymddiriedolaeth yw Bryn Terfel a Peter Greenaway.
|