top of page

Brenin Enlli

Roedd yna frenin ar Ynys Enlli yn niwedd y C18. Does yna neb yn siŵr pwy oedd o na pam y sefydlwyd brenhiniaeth o gwbl. Un ateb yw y gallai trigolion Enlli yn hawdd deimlo eu hunain yn rhan o wladwriaeth annibynnol neu’n rhan o drefedigaeth yr Arglwydd Newborough. Roeddent yn rhydd o ardreth a rhent.

Dywed William Bingley pan gyhoeddwyd ei lyfr 'North Wales' yn 1804 i Frenin Enlli gael ei goroni rhyw wyth mlynedd cyn hynny. Ni enwir y brenin ond cofnodir fel y cynhaliwyd parti ac i’r Arglwydd Newborough I (Thomas Wynn) roi hetiau i’r trigolion i’w gwisgo. Roedd rhubanau ychwanegol yn addurno hetiau’r brenin a’r frenhines. Does dim sôn am goron yr adeg hynny. Bu cryn rialtwch a hawdd credu i’r gwahoddedigion gael pleser mawr yn elwa’n helaeth ar ddiniweidrwydd yr ynyswyr. Roeddent wedi trefnu i aros am noson ar Enlli ond cawsant draed oer. Hwylio o’r ynys ar ddiwedd y dydd wnaeth y boneddigion a threulio’r nos ar y Tir Mawr.

Bu’r brenin hwn farw yn 1826. Ni enwir ef ond gallwn fod yn sicr o’r dyddiad gan i’r Arglwydd Newborough II (Thomas John Wynn) dderbyn llythyr ar 3 Gorffennaf y flwyddyn honno ynglyn â dyluniad goleudy Ynys Enlli. Dywedir ynddo fod Brenin Enlli yn farw ac wedi ei gladdu ar yr ynys.'The poor old King of Bardsey is dead and buried on the island.'

 

Does dim yn nodi’i fedd yn y fynwent. Ymhen tair wythnos ymwelodd yr Arglwydd Newborough ag Enlli ar y llong 'Arvon'. Daeth â chyfeillion gydag ef mewn llongau eraill i seremoni coroni’r brenin newydd.

John Williams I

John Williams, Cristin Uchaf (y Brenin John Williams I) goronwyd yn 1826 a hynny ym mis Awst. Dyma’r tro cyntaf i’r goron gael ei defnyddio. Gallwn dybio mai’r Arglwydd Newborough fu’n gyfrifol am y goron ac iddo ddod â hi efo fo ar gyfer y seremoni.

Bellach arddangosir coron Brenin Enlli yn Amgueddfa Bangor, Storiel, ar ôl bod yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl am flynyddoedd (Llun drwy garedigrwydd Amgueddfeydd Lerpwl.)

Ceir disgrifiad manwl o’r sefyllfa ac o’r coroni yn 1826 gan John Jones. Ymwelodd ag Enlli ar gyfer ei ethyglau ar yr ynys yn 'Y Traethodydd' 1884 a gellir felly gredu fod ei dystiolaeth yn gywir.

John Williams, King of Enlli (1841-1926)

'Mae y Brenin a’r frenhines (sef John Williams I) wedi marw er ys talm; y plant, tri mewn nifer, sydd yn aros, ac yn eu meddiant hwy y mae y regalia, sef coron a snuff box. Yn amser ewythr yr Arglwydd Newborough presennol, bu coroniad ffurfiol ar "John Williams, Cristin", yn frenin ar yr holl Ynys, ac yr oedd cryn rialtwch ynglŷn â’r seremoni. Cymerodd y ddefod le yn yr awyr agored wrth y "Cafn". Rhoddwyd y brenin etholedig i sefyll ar gadair, pan y rhoddwyd y goron ar ei ben, ac yna bloeddid Hwrê gan yr holl wyddfodolion nes rhwygo yr awyr. Yr oedd cynifer a deuddeg o yachts yn llawnion o foneddigesau a boneddigion yn gorwedd gerllaw, ac wedi dyfod yno ar gyfer yr amgylchiad. Ac er dathlu y coroniad, saethid o’r magnelau yn barhâus, lluchid tân gwyllt drwy y nos o’r llongau, a rhenid arian ymhlith yr ynyswyr. Yr oedd y diwrnod yn ddydd o lawen chwedl yn yr Ynys. Ac y mae y frenhiniaeth yn aros yn nheulu "Cristin Uchaf" hyd heddyw, er nad oes frenin na brenhines swyddogol a choronog. Mae y regalia ar gael yno, ac fe’u dangosir gyda llonder a boddhâd i’r ymwelwyr.'

Ganwyd John Williams I yn 1799 ac yn ogystal â bod yn ffermwr Cristin Uchaf 'roedd yn asiant y Trinity House ar yr ynys. Cylfawnodd gryn wrhydri yn 1833 pan lwyddodd i fynd â’r barc ‘Lady Douglas’ i ddiogelwch Ynysoedd Tudwal. Ond er ei allu fel morwr boddodd John Williams I yn y Swnt ar 14 Ebrill 1841 ac fe’i claddwyd ym mynwent Aberdaron. Teyrnasodd o 1826 hyd 1841.

 

Ceir cofnod manwl yn y 'Caernarvon Herald' yn Ebrill 1841 fel y cychwynodd John Williams yn gynnar un bore gyda'i was o Enlli i Aberdaron.

 

'Roedd arno angen mynd i Bwllheli ar fusnes. Am rhyw reswm aeth â'r cwch yn ôl i'r lan, gadael y gwas yno, a chychwyn eilwaith. Edrychodd y gwas dros ei ysgwydd wrth iddo gerdded adref a gwelodd fod y cwch wedi troi drosodd a John Williams yn ymladd am ei fywyd yn y dŵr. Roedd bellach yng ngafael y llanw ac er i rai fynd allan mewn cwch a'i godi o'r dŵr ni lwyddwyd i'w adfer a bu farw. Tridiau cyn i John Williams I foddi ganwyd mab iddo ef a’i wraig. John oedd ei enw yntau ac ef ddaeth yn Frenin John Williams II.' 

 

Roedd yn sicr yr rhy ifanc i olynu ei dad yn syth ac mae’n debyg mai aros yn ddi­frenin wnaeth hyd tua diwedd y G19.

Yr Ymhonwyr

Ond er hyn ceir sôn am y Parchg. Robert Williams yn Frenin Enlli. Gweinidog ar yr ynys ydoedd wedi’i eni yn y Gegin Fawr, Aberdaron yn 1796 ond yn byw ar yr ynys ers tua 1824. Bu farw ar Enlli yn 1875 a’i gladdu yno yn y fynwent.

 

Dywed y Parchg. William T Jones, Gweinidog ar Enlli o Ionawr 1875 ymlaen yn ei ddyddiadur fod ei ragflaenydd Robert Williams yn Frenin Enlli yn ogystal â bod yn Weinidog Calfinaidd a ffermwr Hen Dŷ, a bod Sian ei wraig yn frenhines. 'Roedd yn uchel iawn ei barch, fe’i gelwid yn Esgob Enlli ac yntau mae’n debyg yn honi iddo’i hun fod yn frenin. Tra’r areithio ar ddirwest ym Metws y Coed rhoddodd ar ddeall i’r gynulleidfa mai ef oedd y Brenin ac ymhellach,

 

‘Y mae y Brenin a’r frenhines yn y wlad lle yr wyf fi yn byw wedi signio Dirwest, ac y maent ill dau yn ddirwestwyr zelog.’

John Williams II

Ym mlynyddoedd olaf y G19 y daeth John Williams, un o deulu Cristin i’w orsedd. Ceir darlun o’r Brenin John  a dynnwyd tua 1899 yn eistedd o dan ei goron.

 

Roedd yn fwriad coroni Brenin Enlli mewn eisteddfod gynhaliwyd yno ym Mehefin 1873. Ond does dim tystiolaeth i hynny ddigwydd. Dywedir iddo ef deynasu am gyfnod byr, hyd 1918 o bosib, pan ymfudodd i’r Tir Mawr. Aeth y ddiod yn drech nag ef ­ diodydd a ddaeth i’r lan yn dilyn llongddrylliadau’rRhyfel Byd Cyntaf. Dywedir y bu’n rhaid codi carnedd o gasgenni cwrw gwag ar y Tir Mawr a mynd a John Williams i’w golwg. Yn anfoddog, ond gyda Gwlad yr Addewid dros y Swnt yn ei ddenu fe’i perswadiwyd i ymfudo. I’r wyrcws ym Mhwllheli yr aed ag ef ac yno’n fuan wedyn y bu farw.

Ymwelodd M Dinorben Griffith â Carreg Bach, ar gyfer erthygl i’r ‘Wide World Magazine’ (Rhagfyr 1899) gan gynnwys llun o’i stafell fyw. Dywedodd mai hwn oedd cartref John Williams ond dydi hyn ddim yn gywir ­ yn Cristin oedd o'n byw.

'The Bardsey of today is as unique as it was in the past. It has only seventy­-two inhabitants ­ thirty­-six men and thirty­six females. They are ruled by a "King," who is crowned on his election, and who, like his subjects, earns his bread by the sweat of his brow. The present Ruler succeeded his father, King John Williams the First, who was unfortunately

drowned whilst crossing over alone to the mainland. With great difficulty we induced his present Majesty to sit for his portrait; it was the first and only one ever taken of him. He permitted the crown to be placed on his head for the occasion, but no persuasion ­ even on the part of his wife ­

could make him put on his regal Sunday suit. The crown is of home manufacture, and is neither very valuable nor very beautiful, and the King, with a sigh of intense relief, as soon as the sitting was over, ex-changed his cumbrous emblem of sovereignty for an old hat.'

Dyna egluro sut y llwyddwyd i dynnu llun John Williams II a ddefnyddiwyd ar gerdyn post a fu’n boblogaidd yn ei gyfnod.

King John Williams II wearing his crown in 1899

Love Pritchard

Yn Nhŷ Pellaf y ganwyd yr olaf o frenhinoedd Enlli ond ‘doedd o ddim o linach Cristin. Ganwyd Love Prichard yn 1842 ac fe’i disgrifir fel 'morwr a chimychiwr, tew, braf gyda barf gringoch a wyneb llydan wedi ei losgi gan yr haul' Cyfarfyddodd Syr Mortimer Wheeler ef yn un o dafarnau Aberdaron pan ymwelodd â Llŷn yn 1922 ond prin fu’r sgwrs rhyngddynt. Digon tawedog oedd y Brenin gydag

ymwelwyr, a digon prin ei ddiolch am ddiod brynwyd iddo. Gadawodd y cwmni a throi am adra. 'Roedd Wheeler a’i gyfeillion hefyd ar gychwyn i Enlli ac wrth groesi’r Swnt fe ddarganfu’r dieithriaid yr hen frenin yn ei gwch yn llonyddwch di­wynt y Swnt. Cynigiwyd ei helpu ac yn gyndyn iawn bu’n rhaid iddo fodloni ar gael eu dowio i’r Cafn. Ond cawsant wahoddiad i gantref Love Prichard ac yn dâl am eu cymwynas rhoddodd y Brenin dri chimwch i’r archaelolegydd a’i gwmni.

Yn ôl Wheeler 'roedd Love Prichard wedi’i ddyrchafu’n frenin yn 1918. Dywedir ei fod wedi cymryd y frenhiniaeth drosodd ohono’i hun tua 1911, a hynny efallai o ganlyniad i gyflwr John Williams II.

Love Pritchard

Cynigiodd Love Prichard ei wasanaeth yn y Rhyfel Mawr ond oherwydd ei fod dros oed fe’i gwrthodwyd. Doedd hyn, wrth gwrs, ddim yn ei blesio a dywed un fersiwn mai dyna pam y bu Enlli yn niwtral a hyd yn oed yn gefnogol i Kaiser Wiulheim II. Ceir lluniau o Love Prichard, un gyda’i gwch ym Mhorth Solfach, yn gwisgo’i goron yng nghwmni Capten Jarret, un o ofalwyr y goleudy ac yn torsythu yn ei ddillad gwaith. Ymfudo i’r Tir Mawr fel nifer o’r ynyswyr wnaeth Love Prichard yn y 1920au. 

 

Ymwelodd â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ym 1925 a chroesawyd ef i fonllefau’r dorf fel un o’r Cymry tramor.

Bu farw yn 1926 a chladdwyd ef yn mynwent Aberdaron ar fin y traeth. Mewn erthygl yn ‘Y Dysgiedydd’ (Mehefin 1931) ceir atgofion annwyl am frenin olaf Enlli gan Gwylfa, y golygydd

'Yn wir, anodd fyddai taro ar neb medrusach yn dal y cregyn­bysg hyn na gwyr Enlli. Rhan hynny, dyna oedd yr

hen Love Pritchard yn ei wneud wrth farw, ­ dal ceimychiaid. Galwai hyd yn oed yn Afon Angau ar ei chwaer –

“Dyro’r cawell i lawr, wnei di” Crwydro yn ei faes cynefin yr oedd meddwl yr hen bysgotwr erbyn hyn; a nwyd

difyrraf ei fywyd, hithau yn ymwau yn ynghanol y meddyliau mwyaf crwydrad. Wedi i’r hen frenin farw – dyna

ddwedai ei chwaer: “Dal ceimwch yr oedd o’r peth dwytha’, welwch chi. Mi wydda fo lle i gael y ceimwch, a deyd

wrtha i am roi’r cawell i lawr, 'roedd o, Love druan.” Yr olaf o’r brenhinoedd. Fel hyn y daeth ei yrfa Ynysol i ben.

Yr oedd yr un gwaed ynddo ag yn nheulu ucheldras Madryn., ­ Syr Love Jones Parry a’i deulu. Gwelir fod yr un

enw yn rhedeg yn y llinach ­ “Love”. Diniwed iawn a gonest ydoedd yr hen frenin. Byddai’n yfed tipyn weithiau

pan fyddai’n ymweld ag Aberdaron. Ond os edliwid neu y coffheid iddo ei fod wedi cymryd mwy nas dylai, ­

“Pedwar glasied bychan ges i, myn duwch, Mr Ifas. Ie’n wir. Ie, myn duwch.” Yna fe ddywedai ym mha le y

caswai bob un o’i pedwar glasied, a hynny gyda diniweidrwydd plentyn. Ni oedd na lol na hoced yn yr hen

Ynyswyr o gwbl.'

 

Dywed Chitty (1925) mai swyddogaeth y Brenin oedd casglu'r rhenti a bod yn gymodwr pan godai anghydfod ymhlith yr ynyswyr.

bottom of page