top of page

Cefnogwch ni

Mae Ynys Enlli yn rhan drawiadol o dreftadaeth Cymru, a gydnabyddir yn genedlaethol am ei hanes, bywyd gwyllt a'i phwysigrwydd fel safle treftadaeth grefyddol. Mae ein haelodau a'n cefnogwyr yn cyfrannu'n uniongyrchol tuag at ddiogelu ei dyfodol.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth - drwy ymuno fel aelod, gwirfoddoli neu gyflwyno rhodd.

Mae aelodau'n derbyn Blwyddlyfr blynyddol a chylchlythyr Y Cafn yn ogystal â blaenoriaeth archebu gwyliau. Rydych yn dod yn rhan o gymuned o bobl sy'n caru Enlli!

Gellir ymaelodi ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli drwy lenwi'r ffurflen, ei hargraffu a'i dychwelyd drwy'r post i'r cyfeiriad isod, neu ffoniwch ar 07904 265604 neu e-bostiwch post@enlli.org am fwy o wybodaeth.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen gais. 

Mae aelodaeth sylfaenol yn £30 y flwyddyn. 

Diolch

Cefnogir gwaith yr Ymddiriedolaeth gan ei haelodau, gan roddion a gan waith gwirfoddolwyr. Rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n cefnogi ac yn ei gwneud yn bosibl i ni gynnal yr ynys er lles pawb.

I ddarllen adroddiad Ymddiriedolwyr Ynys Enlli 2017 ewch yma.

Ymaelodi
 
Ymaelodwch ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli i gyfrannu at ddyfodol yr ynys. 
Gwirfoddoli
 
Mae nifer o gyfleoedd i wirfoddoli ar yr ynys. 
Cyfrannu
Rhowch rodd i'r Ymddiriedolaeth er mwyn cefnogi  gwarchodaeth yr ynys ar gyfer y cenedlaethau i ddod. 
bottom of page