top of page

Goleudy Enlli

Goleudy ar Enlli

Teimlwyd for angen goleudy ar Ynys Enlli oherwydd fod cymaint o longau yn hwylio i fyny ac i lawr Bae Ceredigion ym Môr Iwerddon yn nechrau'r G19. Unwaith yr oedd llongau a hwyliai tua'r gogledd yn gadael llewyrch goleudy Pen Caer (Sir Benfro) a'r oleulong yn ne Bae Ceredigion (hyd 1890au) doedd dim i'w harwain i gyfeiriad Lerpwl ond goleudy Ynys Lawd a godwyd yn 1809. Roedd goleudy wedi’i godi ar gopa uchaf Ynys y Moelrhoniaid (gogledd Môn) yn 1717.

​

Gyda'r prifwyntoedd yn chwythu or de­orllewin hawdd iawn i longau ym Mae Ceredigion fyddai cael eu chwythu i'r dŵr bas ar Sarn Badrig neu i freichiau Porth Neigwl. Unwaith yr âi llong i'r bae hwnnw anodd iawn fyddai ei chadw rhag rhedeg i'r lan. Mewn cyfres o englynion mae Ieuan LlÅ·n (1770 ­ 1832) yn disgrifio'n afaelgar beryglon Porth Neigwl ac yn cynnig y dylid codi goleudy ar Rhiw neu

Drwyn Cilan.

Goleu y Rhiw neu Gilan – fyddai

Foddus, fuddiol amcan;

Tŵr eglur, tŷ rhywioglan

Aelwyd teg, i gyfleu tân.

​

Ieuan LlÅ·n

Collwyd nifer o longau yng nghyffiniau Enlli ond yr enwocaf ohonynt oedd llong y Brenin Arthur, 'Gwennan' suddodd yn Ffrydiau Caswennan ganrifoedd lawer ynghynt. 

 

Yn 1748 cyhoeddwyd mapiau a siatriau gan Lewis Morris (un o Forrisiaid Môn) gan gynnwys un o Ynys Enlli. Argymhellodd ei fab, William, pan aeth ati i ddiwygio mapiau ei dad y dylid codi goleudy ar Ynys Enlli. Dilynwyd hyn gan sawl cais ynghyd ag un gan Lt Thomas Evans R.N. yn 1816.

​

Yn wir, cynigiodd Thomas Evans gynllun o oleudy sgwar coch a gwyn gyda mesuriadau. (Cynllun Thomas Evans). Yn y cyfnod hwn roedd Trinity House yn amharod i wario ar oleudai drudion ond roeddent yn barod iawn i ymateb i'r galwadau am un ar Enlli am fod diogelwch llongau a hwyliai yn ôl a blaen i Lerpwl yn hawlio blaenoriaeth.

​

Aed ati i brynu tir i adeiladu goleudy arno a dywedir mai'r arian dderbyniodd Arglwydd Newborough III am y tir hwnnw arno fu'n fodd iddo addasu ac adeiladu y ffermdai, beudai ac ierdydd Ynys Enlli yn yr 1870au.

Y Tŵr

Codwyd y goleudy ar Drwyn Diben ym mhen deheuol yr ynys a'i gwblhau yn 1821 am gost o £5,470 12s 6c. Costiodd y llusern

£2,950 16s 7c.

​

Y peiriannydd a'r adeiladydd oedd Joseph Nelson, un a gysylltir ag adeiladu nifer o oleudai ym Môr Hafren er y dywedir fod stamp Daniel Alexander, pensaer Trinity House ar adeiladawaith goleudy Enlli. Mae hyn i’w weld yn adeiladwaith gwaelod y tŵr. Cyflenwyd y cerrig, sef calchfaen ashlar o Draeth Coch, Ynys Môn gan William Thomas.

 

Nid oes wybodaeth fanylach am y cyfnod adeiladu ond dywedir i'r cyfan gael ei gwblhau o fewn y flwyddyn. Roedd un James Sansten wedi addo llun o’r goleudy i'r Arglwydd Newborough ac ar 3 Gorffennaf 1826, flwyddyn ar ôl iddo addo, mae'n anfon y llun pensil ynghyd â llythyr byr gan nodi yn ogystal yn hwnnw fod Brenin Enlli, y 'poor old king' wedi marw ac wedi'i gladdu ar yr ynys.

​

Dyma'r tŵr uchaf o’i fath yn Ynysoedd Prydain. Mae'r golau yn 30.2 medr (99 troedfedd) uwchlaw'r ddaear ond yn 39.3 medr (129 tr.) uwchlaw marciau penllanw. Mae'r waliau yn 1.2m (4 tr.) o drwch ac yn llai trwchus erbyn cyrraedd pen y tŵr.

​

Hynodrwydd arall goleudy Enlli yw ei fod yn adeilad sgwar wedi'i baentio yn fandiau coch a gwyn. Gwyn arferol ydoedd hyd 1891.

Nodir yn 'Hen Ddyddiadur o Enlli' am y flwyddyn honno.

Y Llusern

Goleuwyd y llusern a gostiodd £2,950 16s 7c am y tro cyntaf ar Noswyl Nadolig y flwyddyn 1821. Lamp oel oedd yn cynnau hyd 1972 a phryd hynny y cafodd ei thrydaneiddio.

 

Gosodwyd llusern newydd yn 1856 a dyna'r un a ddefnyddir hyd heddiw. Fe'i codwyd yn uwch yn 1910 er mwyn i'r golau daflu ymhellach a llwyddwyd i wneud hynny heb darfu ar y llwyfan na'r rheiliau sydd o'i chwmpas. Dydi'r llusern ddim yn troi, mae hi'n llonydd. Yr offer a osodwyd yn 1873 sydd yn troi gan ofalu ei bod yn fflachio'n rheolaidd. Patrwm fflachiadau'r goleudy ydi clwstwr o bum fflachiad bob chwarter munud, ac mae'n effeithiol hyd at bellter o 48KM (26 milltir fôr).

 

Cyn trydaneiddio'r goleudy yn 1965 peiriant olew a gynhyrchai'r golau ond rhaid oedd wendio clocwaith yr offer a ofalai fod y llewyrch yn troi.

​

Cafodd ei awtomeiddio yn 1987. Torrodd hynny ar ddilyniant di­dor o dros ganrif a hanner o bresenoldeb ceidwaid ar Enlli a hwythau wedi dod yn rhan o gymdeithas glos Enlli.

Pan awtomeiddiwyd y goleudy a'r ceidwaid yn ymadael, roedd hyn meddai Neli Williams, 'yn golled ofnatsan, nhw oedd main spring yr ynys gallsech ddeud.'

('O Enlli i Gwenlli' Bessie Williams (Gwasg Pantycelyn 1992)

​

Yn 2014 newidydd y golau i un coch LED. Roedd hyn yn rhan o'r ymgyrch i ffwrdd o orsafoedd disel yn rhedeg parhaus. Mae'r golau yn awr yn dan reolaeth yr Orsaf yn Harwich, Essex. Ewch i wefan Trinity House am fwy o wybodaeth. Mae'r hen golau yn awr yn Borth y Swnt yn Aberdaron. 

Bardsey Lighthouse Optic in Porth y Swnt, Aberdaron
Corn Enlli

Roedd Corn Enlli, y corn niwl, a ddefnyddid i rybuddio mewn niwl yn rhan o adeiladwaith safle'r goleudy. Fe'i sefydlwyd yn 1878 a saith mlynedd wedi hynny cyfeirir ato gan John Jones FRGS: 

 

'ceir creadur rhyfedd a elwir y Fog Horn ­ y "Niwl Gorn" ­

udiadau aflafar yr hwn sydd i gyfarwyddo llestri yn y niwl. Pan ganai 'roedd yn glywadwy meddai 'am ddeng milldir o bellter, a hyny yn erbyn awel gymedrol gref. Gwneir sŵn bob pum' mynyd,a pharhâ bob tro am saith eiliad. Pan y clywid ei sain anhynod gyntaf yr oedd yr anifeiliaid, yn enwedig y ceffylau yn methu yn lân a deall y mater, yn codi eu penau yn moeli eu clustiau, ac yn nacâu gweithio. Ond erbyn hyn maent wedi cynnefino, a phob peth fel o'r blaen.'

​

Ceir disgrifiad manwl gan John Jones o sut oedd y corn yn gweithio:

​

'Oddifewn y mae dau beiriant, y rhai a weithiai ar unwaith, o nerth chwech o geffylau ac yn gweithio drwy dwymno awyr, heb ddim dwfr­ yr hon a yrir i ddau cylinder mawr, nes crynhoi yno ddeugain pwys o awyr, yr hwn a weithir i fyny drwy bibell gopr dair modfedd o dryfesur. Ar ôl gwneud dwy fil a phedwar cant o droadau mewn un mynyd, daw allan trwy y trumpet yn fath o sŵn dychrynllyd.'

​

Teimlwyd erbyn Mai 2010 nad oedd ei angen bellach ac fe'i tawelwyd.

The Lighthouse Keepers

Mae'n debyg mai gwÅ·r di­Gymraeg oedd y rhan fwyaf o'r ceidwiad a byddai Gweinidog Enlli, y Parchg. W T Jones, yn trefnu gwasanaethau yn benodol ar eu cyfer ar rai Suliau ac yn pregethu'n Saesneg. Ym mlynyddoedd cynnar y goleudy tueddai'r trigolion a'r ceidwaid i fyw yn ddigon annibynnol ar ei gilydd; hyn yn arbennig oherwydd unieithrwydd y ddwy gymuned a'r trigolion ynysig yn drwgdybio dieithriaid. Yn rhyfedd nid oedd hawl swyddogol gan geidwaid y goleudy hyd nes y daeth yn flynyddoedd cynnar yr G20 i fynd y tu allan i libart y goleudy.

​

Ond erbyn dathliadau Nadolig 1882 'roedd y gymuned ar Enlli wedi closio a chofnodir yn nyddiadur Y Parchg. W T Jones fod 'yr Ysgoldy wedi ei gwneyd yn wych at yr Achlysur gan Miss Mary Bowen a Mr D Briggs Light House.' Parhaoddd Mary Bowen yr un mor weithgar yn ystod y dathliadau, a'i mam yn hynod hael 'anrhegwyd y plant a'r bobl ieuainc a Thê a bara brith gan Mrs Bowen Lighthouse.' Un o Solfach, sir Benfro oedd Thomas Bowen, ei gŵr. Gallai fod yn Gymro Cymraeg a hyn wedi hwyluso’r closio.

​

Ond 'roedd plentyn i geidwad wedi'i fedyddio yn gynt ym Medi 1876. Bu gwraig ifanc un ceidwad farw'n ifanc, yn 32 oed yn 1891 a'i chladdu ar yr ynys. Lizzie, gwraig Edward Neale oedd hi a gwelir ei charreg fedd yn y fynwent.

 

Roedd Goleudy Enlli yn boblogaidd ymhlith y ceidwaid gan fod modd iddynt ddod a’u teuluoedd efo nhw, tÅ· ar gyfer pob teulu a digon o le iddynt grwydro o gwmpas.

​

Datblygodd perthynas ddymunol ar y cyfan rhwng y trigolion a'r ceidwaid a cheir atgofion difyr gan y rhai a gofnododd eu hatgofion. Arhosai'r prif geidwad ynghlwm i oleudy Enlli am gyfnod o hyd at ddeng mlynedd gan dreulio deufis ar yr ynys ac yna fis mewn man arall ­ yng Nghaergybi fel arfer. Ymwelai eu teuluoedd yn achlysurol, rhai yn cartrefu am gyfnod sylweddol gan anfon eu plant i'r ysgol. Roedd cryn dipyn mwy o ryddid gan geidwaid Enlli o'u cymharu â'r rhai ar greigiau neu hyd yn oed ar Ynys Tudwal lle nad oedd cymuned iddynt gymysgu â hi.

​

Cofia Neli Williams am Mr Fenn yn brif geidwad a’i wraig, a'u deg plentyn yn eu tro yn mynychu'r ysgol. Digon prin yw'r wybodaeth sydd ar gael am geidwaid goleudai yn gyffredinol gan y dinistriwyd archifau'r Trinity House yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rydym yn ffodus yn 'Hen Ddyddidur Enlli', fel gyda'r cofnod o Fehefin 1897:

​

'Mr Jenkins Light­keeper yn syrthio dros y cliff yn y mynydd ­ dyfnder oddeutu 40 llath. Bu farw mewn canlyniad ymhen y bythefnos yn yr Hospital yn Caergybi.'

​

Ceir gwybodaeth am geidwaid fu ar Enlli rhwng 1841 ac 1910 ­ Ceidwaid y Goleudy a Tabl Ceidwaid. 

 

Ceir pennod gyntaf o atgofion manwl Harold Taylor a fu’n geidwad ar Enlli o 1958 ymlaen ar y wefan yma. Mae chwe pennod arall yn dilyn.

Gwarchod Adar

Gan fod Enlli ar un o brif lwybrau ymfudo adar mae'n hawdd iawn iddynt daro yn erbyn y goleudy a chael eu lladd. Cânt eu denu gan y goleudy a'u drysu'n lân gan y llewyrch. Penderfynwyd ei lifoleuo yn 1973 i geisio lliniaru'r broblem ac yn 1978 llifoleuwyd stribed o dir wrth ochr y goleudy gan oleudy ffug er mwyn denu'r adar at y glaswellt a'u cael i orffwyso'n ddiogel yno.

Cynnal a Chadw

O'r cychwyn cyntaf rhaid oedd trefnu rhoi gwasanaeth i'r goleudy ac i'r ceidwaid. Gwneid hynny gan gwch tendio. Yn nyddiau cynnar y goleudy Thomas Williams oedd capten y cwch hwn, sef y 'Supply'. Ar y dydd olaf o Dachwedd 1822 (cwta flwyddyn ar ôl agor y goleudy) gadawodd y 'Supply' Borth Meudwy wrth olau lleuad gydag ugain o bobl a chyflenwadau ynddo. Cafodd gysgod Penycil, ond unwaith yr oedd yn y Swnt aeth i afael gwynt cryf o'r gorllewin a thonnau stormus. Llwyddwyd rhywsut i fynd i gysgod Mynydd Enlli ac er eu bod o fewn 'hyd rhaff angor' i'r Cafn trawodd y cwch yn erbyn craig ac fe'i dymchwelwyd. Boddwyd chwech gan gynnwys Thomas Williams a'i ferch ugain oed, Sydney. Fe'u claddwyd hwy ym mynwent Aberdaron a gosodwyd carreg a gyflwynwyd gan Joseph Goddard, asiant goleudy Enlli, ar eu bedd. Cyfansoddwyd galarnad gan Ieuan LlÅ·n sy'n disgrifio'r digwyddiad yn ddramatig iawn.

 

Dilynwyd Thomas Williams yn gapten Cwch Tendio Golau Enlli (Bardsey Light Tender). gan John Williams. ’Roedd yntau'n forwr profiadol ac yn arbennig o fedrus. Er nad oedd ganddo gymwysterau swyddogol peilot âi allan i gynorthwyo llongau mewn trafferthion fel yr aeth ef a'i gydynyswyr i lywio'r 'Lady Douglas' i ddiogelwch yn 1833.

 

Erbyn 1841 'roedd John Williams wedi'i ethol yn Frenin Enlli gan y trigolion. Ceir cofnod manwl yn y 'Caernarvon Herald' yn Ebrill 1841 fel y cychwynodd John Williams yn gynnar un bore gyda'i was o Enlli i Aberdaron. 'Roedd arno angen mynd i Bwllheli ar fusnes. Am rhyw reswm aeth â'r cwch yn ôl i'r lan, gadael y gwas yno, a chychwyn eilwaith. Edrychodd y gwas dros ei ysgwydd wrth iddo gerdded adref a gwelodd fod y cwch wedi troi drosodd a John Williams yn ymladd am ei fywyd yn y dŵr. 'Roedd bellach yng ngafael y llanw ac er i rai fynd allan mewn cwch a'i godi o'r dŵr ni lwyddwyd i'w adfer a bu farw. Claddwyd John Williams ym mynwent eglwys Hywyn, Aberdaron. Dridiau ynghynt 'roedd ei wraig wedi rhoi genedigaeth i fab, ­ yr un enw a'i dad, ac a ddaeth yn ei dro yn Frenin Enlli (John Williams II).

 

Trinity House sydd yn gwarchod a gwasanaethu'r goleudy. Gwnaed hyn o Gaergybi hyd 1995 ond bellach fe'i rheolir o Harwich,Lloegr. Un o ddyletswyddau Colin Evans yw cynnal a chadw’r goleudy o ddydd i ddydd a bydd llong Trinity House yn galw’n gyson.

bottom of page