
Enwebedigion Cyngor 2023
Gwelwch isod bywgraffiadau'r enwebedigion 2023

Siân Stacey
Mae wedi bod yn fraint bod yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ers hanner olaf 2020 ac rwyf wedi mwynhau gweithio gyda grŵp gwych o gyd-ymddiriedolwyr a staff, yn ogystal â chymuned ehangach yr ynys. Mae gen i wybodaeth ymarferol fanwl am Enlli, wedi byw yno a gweithio fel warden am dair blynedd, ac ers hynny yn ymddiriedolwr ers 4 blynedd. Yn fy mywyd gwaith proffesiynol, rwy’n Rheolwr Prosiect ar bartneriaeth fawr, rhaglen adfer natur yng nghanolbarth Cymru sy’n ymwneud â meithrin perthynas gyda sefydliadau a rhanddeiliaid lleol, cyrchu a sicrhau incwm cyllid a chyflawni prif amcanion y prosiect. Rwyf wedi cwblhau sawl cymhwyster a chyrsiau arweinyddiaeth, o Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy o Brifysgol Met Caerdydd yn 2016, i fod yn un o garfan Arweinyddiaeth Gymdeithasol Clore ar gyfer arweinwyr cymdeithasol Cymru yn 2021/22 yn fwy diweddar. Rwyf hefyd yn gynghorydd cymuned ar gyfer fy ward leol yn Llancynfelyn yng Nghanolbarth Cymru. Byddai’n anrhydedd i mi barhau i wasanaethu fel Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Ynys Enlli mewn cyfnod cyffrous i’r Ymddiriedolaeth ac Enlli yn ei chyfanrwydd.

Dot Tyne
Ymddiriedolwr presennol sy'n ceisio am gyfnod 4 blynedd arall.

Lona Williams
Ymddiriedolwr presennol sy'n ceisio am gyfnod 4 blynedd arall.