top of page

Crwydro Enlli

Rydym yn edrych ymlaen i'ch croesawu i Enlli. Rydym wedi paratoi'r wybodaeth isod i'ch helpu chi i fwynhau ac ymlacio tra byddwch yn ymweld â'r ynys.  

Mae croeso i chi ddilyn y llwybrau o amgylch yr ynys a nodir ar y map. Mae ynyswyr yn byw mewn ambell dŷ ar yr ynys a gellir rhentu'r lleill yn wythnosol yn ystod yr haf. Gellir archebu'r tai drwy ymweld â'r dudalen yma o'n gwefan. 

Cofiwch fod y tywydd yn gallu newid yn gyflym felly dewch efo dillad glaw. Mae'r tir yma yn gallu fod yn anwastad felly dewch a sgidiau cryf a chyfforddus.

Yn yr ysgol mae arddangosfa sy'n olrhain hanes yr ynys a'i chymuned. Ceir mwy o wybodaeth am yr ynys yn y llyfryn Crwydro Enlli.

Mae caffi gerllaw fferm Tŷ Pellaf. Mae toiled i ymwelwyr ym muarth fferm Plas Bach.

Yn un o adeiladau buarth fferm Nant mae arddangosfa am fywyd a gwaith yr arlunydd a'r awdur Brenda Chamberlain. Ceir arwyddion iddi o'r lôn drol gyferbyn â'r abaty. Bu Brenda'n byw yng Ngharreg Fawr a gwelir rhai o'i lluniau ar y muriau hyd heddiw. Efallai bydd yn bosibl i chi eu gweld; cysylltwch os gwelwch yn dda â Rheolwr yr Ynys.

Mae Capel Enlli yn agored bob amser ac mae'r betws ym muarth fferm Carreg Fawr yn cynnig man ar gyfer gweddi dawel. Fel arfer yn ystod yr haf mae caplan ar yr ynys sydd yn darparu gwasanaethau ac yn barod i sgwrsio ag ymwelwyr.

 

Mae Gwylfa Adar a Maes Enlli yn ffermdy Cristin ac yn un o adeiladau'r fferm mae arddangosfa am ei gwaith. Os byddwch yn ymweld â'r gwlyptir yng nghanol yr ynys, os gwelwch yn dda cadwch draw o'r gwinllannau gwiail gan fod rhwydi'n cael eu gosod yno i ddal adar ar gyfer eu modrwyo.

Mwynhewch fywyd gwyllt yr ynys ond peidiwch ag aflonyddu arno os gwelwch yn dda:

  • Cadwch draw o adar sy'n nythu.

  • Parchwch ein morloi llwyd brodorol a chadwch draw bob amser - gallwch eu gwylio o'r glaswellt heb aflonyddu arnynt.

  • Peidiwch a mentro ar gefn serth Mynydd Enlli.

  • Cofiwch osgoi'r clogwyni serth a'r traethau creigiog.

  • Gadewch giatiau fel y'u cafwyd.

  • Parchwch breifatrwydd y bobl sy'n byw ac yn aros ar yr ynys.

  • Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.

Ni chaniateir i chi ddod a cŵn ar Ynys Enlli. 

 

Nid yw Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn caniatáu hedfan drôn, ddarllenwch Bolisi Drôn Ymddiriedolaeth Ynys Enlli am fwy o fanylion. 

Map of Bardsey
bottom of page