top of page

Hanes Cynnar

Mae Enlli yn nodedig fel cyrchfan pererinion ers dyddiau cynnar Cristnogaeth, ond mae olion aneddiadau ar yr ynys yn dyddio o gyfnod cyn Crist.

Olion Cynharaf

Yr olion cyntaf o bresenoldeb dyn ar Ynys Enlli yw darnau o gallestr wedi’u trin a darganfyddwyd yma ac acw ar yr arfordir gorllewinol ar lethrau gorllewinol y mynydd, yn ôl pob tebyg o’r ail fileniwm (2,000 – 1,000) C.C. Mae hyn felly’n brawf fod yr ynys wedi ei phoblogi am o leiaf bedair mil o flynyddoedd.

Olion yr Oes Haearn

Mae olion aneddau ar y Tir Mawr (gair pobl Enlli am Ben Llŷn) y gellir eu dyddio yn bendant i’r Oes Haearn. Ceir tystiolaeth fod pobl wedi byw ar Ynys Enlli yn ystod yr Oes Haearn (700C.C. ­ 43 O.C) gan fod safleoedd cyffelyb gydag olion adeliadau crynion a phetryal ar ochr y mynydd (uwchben Cristin) i’w gweld ar y Tir Mawr. Ceir nifer o gloddiau a fyddai’n waelodion i waliau’r cytiau a chredir y byddent wedi’u toi’n bigyrnaidd. Dewiswyd mannau cysgodol i godi’r cytiau gyda’u mynedfeydd yn wynebu’r de­ddwyrain. Gwnaed peth cloddio yn 1982 ar olion adeiladau petryal wedi’u grwpio yng ngogledd yr ynys ond ni chynigiwyd dyddiadau pendant iddynt.

Gall rhain ddyddio’n ôl i gyfnod y dystiolaeth gallestr. Ceir tystiolaeth yn yr un fan fod adeiladau canoloesol a diweddarach yma.

Darllen Pellach – ‘Caernarvonshire Volume III West’ (RCAHM) Tud. 20

­ ‘Enlli’ (R Gerallt Jones a Christopher J Arnold) Tud. 78­87

bottom of page