top of page

Cyfrannu

Mae adeiladau Ynys Enlli yn rhan o gymeriad unigryw'r ynys. Maent yn gartrefi i gymuned yr ynys ac i'r nifer fawr o ymwelwyr sy'n aros ar yr ynys bob blwyddyn, gan werthfawrogi heddwch ac awyrgylch y fangre arbennig hon.

Mae'r adeiladau hanesyddol yn amrywio o adfeilion tŵr yr abaty o’r 13eg ganrif i ffermydd ystâd a adeiladwyd gan yr Arglwydd Niwbwrch yn y 19eg ganrif. Mae pob adeilad, gan gynnwys yr adeiladau fferm, yn cael eu gwarchod naill ai fel Heneb neu fel Adeilad Rhestredig (gradd 2). Mae rhestr hir o waith adnewyddu hanfodol, er enghraifft ffenestri sydd yn dirywio yn yr hinsawdd arforol, a thoeau sydd wedi sefyll am ddegawdau ac sydd angen eu hadfer gan eu bod wedi dechrau gollwng wrth i lechi symud yn ystod stormydd y gaeaf. Mae'r gost o gynnal a chadw’r hen adeiladau pwysig yn fwy nag incwm blynyddol yr Ymddiriedolaeth.

 

 

 

Ymaelodi
 
Ymaelodwch ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli i gyfrannu at ddyfodol yr ynys. 
Gwirfoddoli
 
Mae nifer o gyfleoedd i wirfoddoli ar yr ynys. 
Cyfrannu
 
Rhowch rodd i'r Ymddiriedolaeth er mwyn cefnogi  gwarchodaeth yr ynys i'r cenedlaethau i ddod. 
bottom of page