Swyddi
SWYDD: Gweinyddwr Swyddfa Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Teitl y Swydd: Gweinyddwr Swyddfa
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (YYE) yn chwilio am Weinyddwr Swyddfa, gyda’r profiad a’r wybodaeth berthnasol i allu darparu gwasanaeth gweinyddol eang i’r Ymddiriedolaeth, ac hefyd i fod yn rhan annatod o staff YYE. Mae YYE mewn cyfnod cyffrous yn ei datblygiad wrth i ni anelu i fod yn esiampl ardderchog o fywyd ar ynys Gymreig, gynaliadwy, sydd yn cefnogi cymuned fywiog, ag economi ac ecoleg iach. Rydym yn chwilio am rywun gyda’r profiad, yr awydd a’r brwdfrydedd i gefnogi’r gwaith yma.
Hyd y Cytundeb: Parhaol, yn amodol ar gyfnod prawf llwyddiannus o 6 mis.
Caiff ymgeiswyr sydd eisiau cyflawni'r rôl yma fel contractwr hunangyflogedig hefyd eu hystyried.
Oriau: Oddeutu 15 awr / yr wythnos (yn ddelfrydol ar ddydd Mercher a Gwener)
Dyddiad Cychwyn: Medi/Hydref 2024
Lleoliad: Gweithio o adref
Cyflog: Cystadleuol a bydd yn gymesur gyda phrofiad a sgiliau'r ymgeisydd llwyddiannus.
Swydd Disgrifiad:
-
Rheoli'r archebion llety gwyliau
-
Ymateb i ymholiadau a cheisiadau sy'n dod i mewn, mewn modd proffesiynol a chymwys a sicrhau, lle bo angen, y caiff ymholiadau eu trosglwyddo i aelodau eraill o'r tîm
-
Cwblhau cadw cyfrifon o ddydd i ddydd gan ddefnyddio QuickBooks neu becyn cyfrifo tebyg
-
Cysylltu â Rheolwr yr Ynys a’r Wardeniaid i gefnogi'r gwaith o redeg yr ynys yn barhaus, e.e. archebu cyflenwadau, darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am archebu
-
Sicrhau paratoi papurau'r Bwrdd ar gyfer pob Cyfarfod Bwrdd a chymryd munudau yng nghyfarfodydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Sgiliau/Profiadau Hanfodol:
-
Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
-
Profiad fel gweinyddwr swyddfa neu rôl weinyddol debyg.
-
Gwybodaeth helaeth o Microsoft Word, Excel, Access, a phecynnau meddalwedd perthnasol.
-
Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol yn enwedig dros y ffôn.
-
Sgiliau trefnu gyda’r gallu i flaenoriaethu tasgau a chwrdd â therfynau amser.
-
Cynefindra da efo ‘QuickBooks Accounts Package’.
-
Profiad ysgrifennu cofnodion, trefnu cyfarfodydd a dyletswyddau clerigol cyffredinol.
Sgiliau/Profiadau Dymunol
-
Rheoli cofnodion o adnoddau dynol a chofnodion llywodraethu.
-
Gwybodaeth a phrofiad o farchnata a chyfryngau cymdeithasol – golygu a chynnal gwefannau, cynhyrchu ac amserlennu postion gyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau a chyhoeddiadau aelodaeth eraill.
-
Cyfarwydd ag Ynys Enlli
-
Profiad o ddefnyddio WordPress a Mailchimp, neu feddalwedd tebyg
Yn ddelfrydol, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu cael mynediad at gyfleusterau bancio a phostio ym Mhwllheli ar sail reolaidd.
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn darparu gliniadur a ffôn symudol.
I geisio: Anfonwch eich CV a llythyr i post@enlli.org
Dyddiad cau: 13eg o Fedi 2024
Bydd cyfweliadau yn cael ei chynnal dros Zoom ar 17eg o Fedi.
E-bostiwch post@enlli.org am unrhyw fanylion pellach.