top of page

Cwblhewch y ffurflen isod i wneud eich ymholiad archebu gwyliau 2024

Dim ond aelodau Ymddiriedolaeth Ynys Enlli gall archebu gwyliau ar hyn o bryd. 

 

Ewch i’n gwefan yma i weld yr argaeledd diweddaraf, byddwn yn diweddaru'r dudalen hon mor aml â phosib.​

​Yn anffodus ni allwn gynnig rhestr aros am wyliau. 

Nid yw'n bosib i chi ddod â'ch ci gyda chi ar wyliau i Enlli. 

Cewch gwblhau'r ffurflen isod yn Gymraeg neu yn Saesneg - dewisiwch yr iaith ar y dde ar gychwyn ffurflen. 

Mae'r canllawiau archebu fel a ganlyn:

  1. Dim ond aelodau o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli all archebu llety yn ystod y cyfnod archebu blaenoriaeth, sy’n dod i ben ar 21 Mehefin 2023.

  2. Dim ond drwy'r system ar-lein y byddwn yn derbyn archebion â blaenoriaeth, ni fyddwn yn derbyn archebion dros y ffôn neu drwy e-bost yn ystod y cyfnod archebu â blaenoriaeth.

  3. Rydym yn cyfyngu nifer y tai a'r wythnosau y gall pob aelod ei harchebu yn ystod y cyfnod archebu blaenoriaeth hwn. Gall aelodau archebu uchafswm o 2 wythnos fesul aelod yn ystod y cyfnod archebu blaenoriaeth. Gall y 2 wythnos hyn fod yr un tŷ am bythefnos, neu 2 wythnos ar wahân yn ystod y flwyddyn.

  4. Dim ond y llety y maent yn aros ynddo y caiff aelodau archebu lle.

  5. Ar gyfer archebion grŵp, h.y., grŵp teulu neu grŵp o ffrindiau, dewiswch yr opsiwn hwn yn y ffurflen. Bydd angen aelod o'r Ymddiriedolaeth ym mhob tŷ fel y gwestai arweiniol. Cwblhewch un ffurflen yn unig ar gyfer yr archeb grŵp.

  6. Mae’r telerau ac amodau hyn yr un fath ar gyfer aelodaeth deuluol ac aelodaeth arferol h.y., ni ellir archebu wythnosau ychwanegol o dan aelodaeth deuluol.

  7. Byddwn yn derbyn ymholiadau archebu yn y drefn y cânt eu derbyn.

  8. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyrannu eich dewis o lety.

  9. O 21 Mehefin 2023, ar ddiwedd y cyfnod archebu blaenoriaeth, bydd archebion yn cael eu cymryd ar sail y cyntaf i'r felin, heb unrhyw gyfyngiadau ar nifer y tai neu wythnosau y gellir eu harchebu.

bottom of page