Enlli
Mae Ynys Enlli yn llawn o fywyd gwyllt, arfordir dramatig a dros 4,000 o flynyddoedd o hanes diddorol. Mae yma ddigon i'w ddarganfod os ydych yn ymweld am y dydd neu am wythnos o wyliau ar yr ynys unigryw hon.
Saif Ynys Enlli tua 2 filltir (3 cilomedr) ar draws y swnt o Benrhyn LlÅ·n, Gogledd Cymru.
Mae’r ynys yn 1.5 milltir (2.5 cilomedr) o hyd ac, ar ei man lletaf, mae’n ychydig dros hanner milltir (1 cilomedr). Uchder Mynydd Enlli yw 167 metr ac mae arwynebedd o 180 hectar i'r ynys, y rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hamaethu.
Prynwyd yr ynys gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ym 1979 ac fe’i rheolir gan yr Ymddiriedolaeth gyda chyngor Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW. Dynodwyd yr ynys yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac fe saif o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol LlÅ·n. Mae'r ynys hefyd o bwysigrwydd rhyngwladol ac wedi ei rhestru fel Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd ei chynefinoedd a'i rhywogaethau yn ogystal ag Ardal Gwarchodaeth Arbennig oherwydd yr adar sy'n nythu yma.
​
Mae gan yr ynys ei hud a'i lledrith ei hun, ac mae pobl wedi eu denu yma ers canrifoedd. Dewch draw i gael eich hudo eleni.
Partneriaid
Mae ein prosiect cyfredol (2021) 'Adeiladu Dyfodol Gwyrdd i Ynys Enlli' yn bosibl gyda chymorth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Gyda diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sydd wedi galluogi i ni ddatblygu cynllun rheoli cynhwysfawr sy'n cyfleu ymrwymiad ac uchelgais pawb sy'n ymwneud â sicrhau dyfodol i'r ynys.