top of page

Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

Ymddiriedolaeth Ynys Enlli sydd yn berchen ar Ynys Enlli a'i nod yw gwarchod a hyrwyddo'r ynys fel lle o ddiddordeb gwyddonol, hanesyddol ac ysbrydolrwydd arbennig.

Agenda Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2023: yma

Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2022 yma

Ymriddiedolwyr enwebedig 2023 yma

 

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon 2022 i'w gweld yma. 

Am wybodaeth ein Ymddiriedolwyr, ewch yma.

Ym 1978 rhoddwyd ymgyrch ar waith i brynu'r ynys. Y perchennog ar y pryd oedd yr Anrhydeddus Michael Pearson (Arglwydd Cowdray). Arweiniwyd yr ymgyrch gan bobl brwdfrydig ledled Prydain ac fe'i cefnogwyd gan nifer o Gymry amlwg, er enghraifft R S Thomas a William Condry, yn ogystal â'r Eglwys yng Nghymru. Prynwyd yr ynys ym 1979. Elusen ydy'r Ymddiriedolaeth ac mae modd ymaelodi â hi i gefnogi'r ynys. 

Amcanion

Mae'r Ymddiriedolaeth yn elusen gofrestredig.

Prif amcanion yr Ymddiriedolaeth yw:

  • gwarchod bywyd gwyllt ac ecosystemau bregus yr ynys

  • annog pobl i ymweld â’r ynys fel man o harddwch naturiol a chyrchfan

  • ymgymryd ag astudiaethau gwyddonol a rhaglenni addysg

  • gwarchod yr adeiladau a’r safleoedd archeolegol

  • amaethu er budd cynefinoedd amrywiol yr ynys.

Mae Cyngor yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys Cadeirydd ac amryw o ymddiriedolwyr. Mae’r Cyngor yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn.  


Noddwyr

Noddwyr yr Ymddiriedolaeth yw Bryn Terfel a Peter Greenaway.

Staff

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cyflogi wardeniaid yr Ynys, Mari Huws a Emyr Glyn Owen, Swyddog Gweinyddol, Caroline Jones, Rheolwr Datblygu, Menna Jones yn ogystal â Catrin Menai a Jack Galloway, sy'n wardeniaid llety tymhorol.

IMG_7611.jpg
Emyr Glyn Owen a Mari Huws
Wardeniaid yr Ynys
Menna Jones
Rheolwr Datblygu
IMG-20220809-WA0006.jpg
Catrin_Menai.jpg
Catrin Menai
Warden lety
Caroline Jones.jpg
Caroline Jones
Swyddog Gweinyddol
Jack_Galloway.jpg
Jack Galloway
Warden lety
Diolchiadau am Gefnogaeth

Cefnogir yr Ymddiriedolaeth gan nifer o ymddiriedolaethau, sefydliadau a chyrff cenedlaethol. Rydym yn ddiolchgar iawn i gefnogaeth barhaol gan:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru

  • CADW

  • Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

Derbyniwyd cymorth ariannol hefyd gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, WCVA, AHNE Llŷn a Chymunedau Mentrus Llywodraeth y DU. (2022)

Aelodaeth

 

 

Cefnogwch waith yr Ymddiriedolaeth drwy

ymaelodi a bod yn rhan o ddyfodol yr ynys. 

Gwirfoddoli

 

 

Ymunwch gyda'n tîm o wirfoddolwyr a dewch i gael blas ar weithio ar ynys anghysbell.

Cyfrannu

 

 

Cefnogwch waith pwysig yr Ymddiriedolaeth drwy gyfrannu heddiw i sicrhau dyfodol Enlli.

bottom of page