top of page

Enwebeion Cyngor 2024

Gwelwch isod bywgraffiadau'r rhai wedi eu henwebu yn 2024

DG Photo_edited.jpg
David Giblin

Rwyf wedi bod yn ymwelydd cyson â’r ardal leol ar hyd fy oes ac ym Mhen Llŷn y teimlaf yn wirioneddol gartrefol. Rwy'n briod gyda dau o blant ac fel teulu rydym wedi datblygu affinedd ag Enlli.

Graddiais o Brifysgol Lerpwl a dechreuais fy ngyrfa gyda Kellogg’s cyn mynd ymlaen i ddal swyddi arwain gyda chwmnïau gan gynnwys Shell a Nike. Mae gen i brofiad o arwain newid, datblygu strategaeth, adeiladu timau, trawsnewid busnesau a sicrhau twf cynaliadwy. Rwyf hefyd wedi gweithio’n rhyngwladol gan gynnwys cyfnodau yn byw yn yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau a’r Swistir.

Pan nad wyf yn gweithio rwy'n hoffi teithio ac wedi dod yn rhedwr angerddol sydd wedi cwblhau marathon Llundain bedair gwaith i gefnogi gwahanol elusennau. Rwy'n gobeithio y bydd fy mhrofiad masnachol a busnes yn fuddiol ac rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gefnogi'r ymddiriedolaeth.

AlunLlwyd.jpeg
Alun Llwyd

Rwyf yn Brif Weithredwr ar gwmni PYST Cyf. Mae fy nghymhelliant dros fod yn ymddiriedolwr yn amrywiol. Yn fy ngwaith o ddydd i ddydd rwyf yn ymwneud â hyrwyddo diwylliant Cymraeg a Chymreig yn  a gallu adrodd y straeon hynny i gynulleidfa ehangach drwy blatfform digidol AM (â sefydlwyd gennyf dair blynedd yn ôl). Mae gennyf grêd sylfaenol ym mhwysigrwydd gweithgaredd a llwyddiant cymunedol i les a datblygiad y genedl yn economaidd a diwylliannol ac mae pwysigrwydd a hanes Enlli yn rhan annatod o hynny i mi. Mae esblygiad yr Ynys I’r dyfodol yn rhywbeth cyffrous er heriol, ond yn cynrychioli y gwerthoedd sylfaenol y dylem ei hyrwyddo: yn amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Yn arbennig yn dilyn Covid, rwyf wedi gweld y modd y gall y cyfrwng digidol ddatblygu ymgysylltiad y cyhoedd gyda straeon penodol a dyna y mae AM yn ei wneud a hynny i gynulleidfa fawr.

 Mae’r cymhelliad yn bersonol hefyd. Rwyf yn adarwr brwd, yn ymddiriedolwr  gyda Chymdeithas Adaryddol Cymru, ac o ganlyniad yn gwerthfawrogi pwysigrwydd Enlli yn y cyd-destun hwn hefyd.

 Rwyf hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Diwylliant Enlli â sefydlwyd yn ddiweddar.

Deryl Roberts Photo.jpg
Deryl Roberts

Dwi'n byw ym Mhowys, efo gwreiddiau teuluol ym Mhen Llŷn, ac rwyf yn aros ar Ynys Enlli am wythnos bob blwyddyn. Mae Enlli yn le unigryw ac arbennig sydd wedi dod yn rhan bwysig iawn o fy mywyd. Rwyf yn ceisio bod yn ymddiriedolwr fel y gallaf helpu i sicrhau bod Enlli yn ffynnu yn y dyfodol a bod ei chymuned, bywyd gwyllt, ei thirwedd a'i threftadaeth yn cael ei ddiogelu a'i werthfawrogi ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Rwy'n dod â dros 30 mlynedd o brofiad mewn ymgynghori amgylcheddol a chynaliadwyedd ac rwy'n credu y gallaf ddefnyddio fy sgiliau technegol a busnes i gefnogi'r Ymddiriedolaeth i barhau i wneud Enlli yn esiampl o gymuned ynys gynaliadwy yng Nghymru.

Dewi_Lewis.jpg
Dewi Lewis

Rwy’n frodor o Borthmadog ond wedi byw yng Nghlydach, Cwm Tawe ers 1989. Rwyf wedi ymweld ag Ynys Enlli ers 2008 fel ymwelydd wythnos ac hefyd ar deithiau dydd. Mae gennyf ddiddordeb yn hanes a diwylliant Ynys Enlli. Rwyf yn adarwr brwd ac yn hoff o fyd natur yn gyffredinol. Mae gennyf radd anrhydedd mewn Diwinyddiaeth ac mae agweddau ysbrydol a chrefyddol Enlli yn rhywbeth sydd yn agos at fy nghalon hefyd. Rwy’n edrych ymlaen i fod yn aelod o Ymddiriedolwyr Ynys Enlli a chael gweithio i sicrhau dyfodol disglair a llewyrchus.

Membership

 

 

Support the work of the Bardsey Island Trust by joining as a member and being part of the future of the island.  

Volunteer

 

 

Join our team of committed volunteers and experience working on a remote welsh island.

Donate

 

 

Donate to the Bardsey Island Trust to support the vital work of preserving and protecting the future of Bardsey.

bottom of page