top of page

Ymweld

Mae Ynys Enlli yn agored o fis Mawrth hyd at fis Hydref. Mae'n bosib ymweld am y dydd neu aros am yr wythnos yn nhai yr Ymddiriedolaeth. 

Ymweld am y dydd

Colin Evans,  Mordaith Llŷn, sy'n gyfrifol am y tripiau dydd i Enlli. Maen nhw'n digwydd yn rheolaidd drwy'r tymor os yw'r tywydd yn caniatáu. 

Fel arfer, cewch rhwng 3 a 4 awr ar yr ynys; digon o amser i ymweld â phrif nodweddion a thirnodau'r ynys a mwynhau paned yn y caffi. 

Mae Enlli yn fferm, felly mi fydd gwartheg a defaid ger y tai a'r llwybrau. 

Ni chaniateir cŵn. 

Archebu gwyliau ar Enlli

Unwaith y byddwch wedi bod ar eich gwyliau cyntaf ar Enlli, mae'n debyg y byddwch eisiau dychwelyd dro ar ôl tro.

 

Mae nifer o dai ar gael ar gyfer llety gwyliau gyda phrisiau yn amrywio yn ôl maint y tŷ a'r tymor.

 

Mae deg tŷ hunan-ddarpar yn cael eu gosod gan yr Ymddiriedolaeth:

  • Tri ffermdy o faint sylweddol ar wahân

  • Tri ffermdy o faint sylweddol yn rhan o bâr

  • Tri beudy wedi eu newid yn llety

  • Un bwthyn croglofft traddodiadol gwyngalchog

Mae'r tai wedi eu cynnal mewn dull traddodiadol, felly nid oes golau trydan ynddynt. Mae gan bob tŷ bopty a hob nwy.

Mae gan y rhan fwyaf o'r tai oergelloedd solar.

Nid oes cae gwersylla na chyfleusterau gwersylla ar Ynys Enlli, mae llety ar gael mewn tai yn unig.

Am fwy o wybodaeth am archebu gwyliau ar Enlli cliciwch yma. 

Hedfan Drôn

Nid yw Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn caniatáu hedfan 'dron' gan unigolion unman ar yr ynys. Am fwy o wybodaeth, neu os ydych yn chwilio am ganiatâd i hedfan drôn am reswm gwyddonol, monitor neu ganiatâd ffilmio ddarllenwch Bolisi Drôn Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. 

bottom of page