Aros ar Enlli
Archebwch eich gwyliau unigryw ar Enlli heddiw. Mae dewis o sawl tŷ, yn cynnwys ffermdai sylweddol, llofftydd ac un hen fwthyn, i gyd wedi eu rhestru gan CADW.
Saif Ynys Enlli tua 2 filltir (3 cilomedr) ar draws y Swnt o Benrhyn Llŷn, gogledd Cymru.
O’r tai hunan-arlwyol sy’n cael eu gosod gan yr Ymddiriedolaeth, mae tri yn gyn-ffermdai sylweddol sy’n sefyll ar wahân, mae tri yn dai pâr sy’n gyn-ffermdai hefyd, mae un yn fwthyn â chroglofft a’r lleill yn stablau wedi eu newid yn lletai. Maent i gyd yn gadarn ac yn llawn cymeriad ac ar gael i aros rhwng Ebrill a mis Hydref.
Mae manylion bob tŷ isod, yn cynnwys lluniau o'r ystafelloedd, prisiau ac argaeledd. Mae'r wythnos gosod yn cychwyn ar ddydd Sadwrn. Cysylltwch â ni os hoffech aros am llai na wythnos. Rydym hefyd yn cymryd archebion gwyliau byr. Gellir cymryd gwyliau byr am 3 noson neu 4 noson, wrth gyrraedd ar ddydd Sadwrn, neu gyrraedd canol wythnos a gadael ar ddydd Sadwrn. Cysylltwch â ni am brisiau.
Llety ar gael i aros ynddo
Llofft Plas
Adnewyddwyd Llofft Plas, sydd bellach yn llety poblogaidd a chyfforddus, o hen stabl. Oddi yma cewch un o'r golygfeydd gorau o'r ynys; yn edrych i gyfeiriad y goleudy o'r drws ffrynt. Saif oddeutu hanner canllath o'r lôn, ac mae'n rhan o gasgliad sylweddol o adeiladau Plas Bach.
Ar y llawr isaf mae un ystafell fyw/cegin ac mae ystafell wely i fyny'r grisiau, sydd â 2 wely sengl. Mae gwresogydd nwy ar gyfer defnydd i lawr grisiau. Nid oes gardd yn Llofft Plas, ond mae digon o le i eistedd o flaen yr adeilad, a chwrt glaswelltog yn y cefn.
Sylwch: oherwydd diffyg lle tân, gall yr eiddo hwn fod yn oer yn ystod tywydd garw.
Cysgu 2
Carreg Bach
Yn addas ar gyfer un neu ddau, mae'r bwthyn Cymreig traddodiadol yma yn llawn cymeriad. Mae ystafell fyw â stôf aml-danwydd a chegin fechan i lawr y grisiau a chroglofft agored o dan y to gyda phen pellaf y ddau wely sengl yn cyffwrdd tu mewn y llechi. Mae'r ystol gref a osodwyd yn ei lle pan adeiladwyd y tŷ yn parhau i gael ei defnyddio i gyrraedd y groglofft hyd heddiw.
O du blaen y bwthyn mae golygfeydd gwych i'r gorllewin ar draws yr ynys a thuag at fynyddoedd Wicklow yn Iwerddon.
Cysgu 2
Llofft Nant
Adnewyddwyd Llofft Nant, sydd yn llety cyfforddus a chartrefol, o hen stabal. Mae'n agos at dŵr yr Abaty a'r capel, a drws nesaf i siop ac arddangosfa'r ynys.
Mae iard gysgodol o'i flaen gyda digon o le i ymlacio yn yr haul. 2 wely sengl sydd yn y lloft. Mae gwresogydd nwy ar gyfer defnydd i lawr grisisau. Ceir golau trydan o baneli solar yn y llety yma.
Sylwch: oherwydd diffyg lle tân, gall yr eiddo hwn fod yn oer yn ystod tywydd garw.
Cysgu 2
Nant
Hen ffermdy ydy Nant sydd drws nesaf i Hendy. Bu'r ffermdy hwn yn gartref i deulu tan ychydig wedi' r Ail Ryfel Byd. Defnyddiwyd y bachau yn y nenfwd i hongian cig moch wedi ei halltu. O du blaen y tŷ ceir golygfeydd godidog i gyfeiriad Iwerddon a'r tu ôl i'r tŷ mae gardd gysgodol.
Mae'n agos at dŵr yr Abaty a chapel yr ynys. Mae'r tŷ yn ddrych-ddelwedd o Hendy ac yn aml bydd dau deulu, neu grŵp mawr sy'n dymuno bod yn agos at ei gilydd, yn llogi'r ddau dŷ. Mae yna 1 stafell wely dwbl, 1 sengl ac un gyda 3 gwely sengl ynddo. Mae stôf aml-danwydd yn y lolfa.
Cysgu 6
Hendy
Mae Hendy drws nesaf i Nant a hwn yw'r mwyaf preifat o'r ddau dŷ, gyda gardd ddistaw.
Ceir golygfeydd trawiadol tuag at Iwerddon a'r tir mawr.
Byddai Hendy a Nant yn addas ar gyfer grŵp neu ddau deulu sy'n dymuno ymweld â'r ynys gyda'i gilydd.
Mae yna un ystafell wely dwbl, 2 sengl ac un ystafell gyda 3 gwely sengl ynddo. Yn yr ystafell fyw, mae yna stôf aml-danwydd.
Cysgu 7
Tŷ Nesaf (dim yn cael ei osod yn 2024 nac yn 2025)
Hen ffermdy ydy Tŷ Nesaf sydd yn gymydog i Dŷ Bach, cartref rheolwr yr ynys.
Mae un ystafell wely dwbl, un sengl ac un gyda 3 wely sengl ynddo. Mae'r gegin a'r ystafell fwyta yn wynebu'r de gyda golygfeydd trawiadol i gyfeirad y goleudy. Ceir stôf aml-danwydd yn y lolfa.
Mae giât fechan bren ger yr ardd o flaen y tŷ yn arwain at lwybr drwy'r caeau i Lôn Penrallt ar yr arfordir sy'n wynebu'r gorllewin. Ar noswaith glir, gellir gweld Iwerddon o flaen y tŷ.
Cysgu 6
Tŷ Capel
Tŷ sylweddol yn sefyll ar wahân. Defnyddid Tŷ Capel yn wreiddiol fel tŷ'r gweinidog. Bu'r Parchedig John Enlli Williams a'i wraig yn byw yma yn ystod ail hanner y 19eg ganrif gan fagu pump o blant.
Gall ymwelwyr sy'n aros yma wylio'r machlud yn goleuo'r croesau Celtaidd yn y fynwent cyn i'r haul ddiflannu y tu ôl i fynyddoedd Wicklow yn Iwerddon. Mae yma ardd breifat, ac mae stôf aml-danwydd yn y lolfa. Mae Tŷ Capel yn cysgu 8 o bobl mewn 2 ystafell ddwbl a 2 ystafell gyda 2 gwely sengl yr un.
Cysgu 8
Carreg Fawr
Tŷ sylweddol yn sefyll ar wahân gyda golygfeydd i'r gorllewin tuag at Iwerddon. Rhaid cerdded drwy cae i fynd at Carreg Fawr, a gall ar adegau fod defaid eu wartheg yn y cae. Mae Carreg yn dŷ mawr golau sydd yn berffaith ar gyfer partïon mawr neu deulu, yn cysgu 8 mewn un ystafell dwbl, 2 ystafell gyda 2 wely a 2 ystafell sengl. Yma gwelir murluniau'r artist Brenda Chamberlain.
Mae stôf aml-danwydd yn y lolfa.
Cysgu 8
Plas Bach
Tŷ sylweddol sydd yn cysgu 8 mewn 2 ystafell ddwbl, 2 sengl ac 1 ystafell gyda 2 wely. Ceir golygfeydd bendigedig tuag at Iwerddon, ac ar dalcen y tŷ roedd y goeden afal Enlli. Mae lle i ymlacio o flaen a thu ôl y tŷ yn yr ardd flodeuog.
Tŷ gwych ar gyfer grŵp o bobl neu deulu mawr. Mae stôf aml-danwydd yn y lolfa.