top of page

Y Celfyddydau

Mae artistiaid wedi cael eu denu i Enlli dros y blynyddoedd ac mae'r Ymddiriedolaeth wedi croesawu nifer o artistiaid preswyl i'r ynys. Mae'r rhain yn amrywio o awduron ac arlunwyr i artistiaid cyfryngau cymysg.

Cyfleoedd Artist Preswyl 2024

Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn cynnig cyfleoedd i Artistiaid Preswyl weithio yn Enlli yn ystod gwanwyn a haf 2024. Rydym yn chwilio am artistiaid profiadol a rhai sy’n datblygu o unrhyw ddisgyblaeth artistig sydd â chysylltiad efo Gwynedd, gogledd Cymru. Rhaid i’r gwaith ymateb i’r iaith Gymraeg, diwylliant, ecoleg, amgylchedd a threftadaeth hanesyddol Gwynedd neu Ynys Enlli. Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael eu gwahodd i dreulio hyd at 4 wythnos ar yr ynys, mewn llety hunan-arlwyo a stiwdio.

DYDDIAD CAU 29 Chwefror 2024.

 

I wneud cais, neu os oes gennych gwestiynau cyn gwneud y cais, cysylltwch os gwelwch yn dda efo: celfenlli@gmail.com  

Ariennir trwy gronfa (SPF)  Diwylliant, Cyngor Gwynedd.

Dyma rai o'r ffotograffwyr, artistiaid ac awduron sydd wedi eu hysbrydoli gan Ynys Enlli.  

Ben Porter

Mae Ben Porter wedi byw ar Ynys Enlli ers iddo fod yn 11 oed, hyd at 2018 gyda'i deulu, a oedd yn ffermio'r ynys. Mae Ben wedi bod yn tynnu lluniau bywyd gwyllt yr ynys ers iddo gyrraedd ac wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau ffotograffiaeth cenedlaethol. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth RSPCA 2014 gyda chanmoliaeth uchel ac ymddangosodd  ei luniau yn rhestr fer Gwobrau Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydain 2014. Mae ei ddelweddau hefyd wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau amrywiol, megis Birdwatch a chylchgronau BBC Wildlife, Natur Cymru ac Adar Prydain.

Christine Evans

Mae'r bardd Christine Evans wedi bod yn gysylltiedig â'r ynys ers y chwedegau, pan briododd fab yr olaf o deuluoedd ffermio Enlli. Mae hi a'i theulu yn byw ac yn gweithio ar yr ynys am ran helaeth o'r flwyddyn. Mae hi wedi cyhoeddi pum cyfrol o farddoniaeth: Looking Inland, Falling Back, Cometary Phases, Island of Dark Horses, sydd wedi'i seilio'n llwyr ar ei bywyd ar Ynys Enlli, a Dreaming the Candle.

Bydd Christine yn cynnal darlleniadau barddoniaeth ar yr ynys yn ystod yr haf.

Jo Porter

Roedd Jo yn byw a gweithio ar Enlli o 2007-2018 ac mae hi'n mwynhau defnyddio deunyddiau crai megis gwlân a helyg yr ynys i wneud darnau defnyddiol a hardd. Mae Jo yn gwneud rygiau gwlân, basgedi helyg a nifer o eitemau ffelt; mae'r rhain ar gael i'w prynu yn ei siop ar yr ynys neu drwy ei gwefan.

Emma Stansfield

Mae Emma yn byw yn yr Wylfa Adar ar Ynys Enlli gyda'i gŵr, Steve, Warden yr Wylfa, a'u mab Connor. Astudiodd Emma Ddarlunio Bywyd Gwyllt yng Ngholeg Celf a Thechnoleg Sir Gâr a chwblhaodd MA mewn Astudiaethau Darlunio Natur yn y Coleg Celf Brenhinol yn 2001. 

 

 

Kim Atkinson

Bu’r arlunydd bywyd gwyllt, Kim Atkinson, yn byw ar yr ynys am saith mlynedd cyntaf ei hoes ac yna unwaith yn rhagor yn yr 1980au a’r 1990au. Mae ei gwaith wedi ei arddangos ar hyd a lled Cymru a Lloegr ac oherwydd ei henw da fel artist cafodd ei gwahodd i weithio mewn llawer rhan o’r byd gan gynnwys Awstralia a Gwlad Pwyl. Mae delweddau nodweddiadol Kim i’w gweld ar lawer o’r nwyddau a werthir yn y siop.

Brenda Chamberlain

Bu’r arlunydd, yr awdur a'r bardd Brenda Chamberlain yn byw yng Ngharreg Fawr rhwng 1947 ac 1962. Roedd yn gyfnod hynod o gynhyrchiol yn ei bywyd. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd Fedal Aur Celf yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Mae modd gweld rhai o’r murluniau a beintiodd ar waliau Carreg hyd y dydd heddiw, ac ysbrydolwyd amryw o’i pheintiadau a’i lluniau gan yr ynys, yn ogystal â’i nofel Tide Race: 1962, yn ei bumed argraffiad - Seren, Mawrth 2019.

I lawr lwytho pecyn addysg ar yr artist Brenda Chamberlain, ewch yma.

R S Thomas

Y bardd R S Thomas oedd ficer Aberdaron cyn ei ymddeoliad ym 1978, pan symudodd filltir neu ddwy i lawr y ffordd i bentref y Rhiw. Roedd ganddo gysylltiad agos â’r ynys, yn enwedig yn nyddiau cynnar yr Ymddiriedolaeth.

Dilys Cadwaladr

Treuliodd Dilys Cadwaladr, y ferch gyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1953 am ei cherdd hir, Y Llen, amryw o flynyddoedd ar Enlli yn yr 1940au, yn ffermio ac yn athrawes i blant yr ynys.

Please reload

Llenor Preswyl

Gwahoddwyd llenor preswyl iaith Gymraeg i Enlli am y tro cyntaf yn 2002 mewn cydweithrediad â’r Academi Gymreig. Treuliodd Fflur Dafydd, bardd, awdur a cholofnydd, chwech wythnos ar yr ynys yn gweithio ar gasgliad o farddoniaeth a rhyddiaith, yn ogystal â chyfrannu sawl erthygl am ei chyfnod ar yr ynys i gylchgronau a phapurau newydd Cymreig. Ysbrydolwyd dwy nofel, Atyniad a Twenty Thousand Saints, a'i drama ‘Hugo’, a gynhyrchwyd gan Sgript Cymru, gan ei phrofiadau ar yr ynys.

Artistiaid Preswyl

Sefydlwyd y cynllun artist preswyl cyntaf ar y cyd â Chywaith Cymru ac Oriel Mostyn yn 1999. 


Mae’r artistiaid yn treulio sawl wythnos ar yr ynys ac yn cynhyrchu gwaith a arddangosir yn ddiweddarach ar y tir mawr. 

 

Ers 2006 mae Carole Shearman wedi gweithio ar Enlli fel artist preswyl tymor hir, ac yn annog ymwelwyr sy'n aros ar Enlli i ymuno â gweithdai er mwyn creu celf sydd wedi ei ysbrydoli gan yr ynys.  
 

 

 

Carole Sherman running an art workshop
1999
2000
2001
2002
2006
2015
Trudi Entwistle
Ben Stammers
Claire Barker
Susan Adams
Carole Shearman
2016
Peronel Barnes

Am wybodaeth ynglŷn a sut i fod yn artist preswyl ar Enlli cysylltwch â post@enlli.org

 

 

 

Anchor 2
bottom of page