top of page

Noddfa Awyr Dywyll

Ynys Enlli - noddfa awyr dywyll gyntaf Ewrop

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Ynys Enlli wedi derbyn statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (IDSS) gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA). Dyma’r safle cyntaf yn Ewrop i dderbyn statws o’r fath.

Mae Noddfa Awyr Dywyll Rhyngwladol fel arfer mewn lleoliad anghysbell gydag ychydig o fygythiadau cyfagos i ansawdd yr awyr yno yn y nos. Mae Noddfeydd Awyr Dywyll Ryngwladol ymysg y llefydd mwyaf anghysbell ac yn aml, tywyllaf yn y byd, gyda chyflwr cadwraeth fregus. Gyda’r dynodiad newydd mae Enlli yn bodloni meini prawf llym ac yn ymuno â dim ond 16 o safleoedd eraill tebyg yn y byd.

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, Sian Stacey: “Mae’n fraint cael cyhoeddi’r newyddion am statws newydd Ynys Enlli fel Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol heddiw. Mae’n gamp anhygoel a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses. Mae hyn yn benllanw ar flynyddoedd o waith caled gan ein tîm ni yn ogystal â’n partneriaid ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Heb unrhyw amheuaeth mi fydd gweld Ynys Enlli yn derbyn y statws pwysig yma yn codi proffil yr ynys fel llecyn unigryw yng Nghymru ac ymhlith y gorau yn y byd i werthfawrogi awyr y nos. Gobeithio hefyd y bydd yn mynd yn bell o ran sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr ynys.”

Ychwanegodd Ruskin Hartley, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol: “Rydym yn falch iawn o allu croesawu Ynys Enlli i’r gymuned o safleoedd awyr dywyll ar hyd a lled y byd. Mae’n golygu Cymru’n prysur ddod yn un o’r gwledydd mwyaf blaenllaw o ran gwarchod yr awyr dywyll fel adnodd gwerthfawr, sydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt.”

Mae nodweddion daearyddol Enlli yn ei gwneud hi’n un o’r mannau tywyllaf yn y DU. Mae’r golau o’r tir mawr yn cael ei gyfyngu gan fynydd Enlli a’r llygredd golau mawr agosaf yn dod o Ddulyn, 70 milltir i ffwrdd dros Fôr Iwerddon.

Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, cafodd rhaglen bedair blynedd ei chynnal fel rhan o’r cais i fonitro ansawdd awyr y nos mwyn dangos ei bod yn ddigon tywyll i gymhwyso ar gyfer y dynodiad. Roedd yr IDA hefyd yn gofyn am gynllun rheoli golau yn ogystal â thystiolaeth ffotograffig er mwyn cytuno i ddynodiad Enlli.

Mae Mari Huws yn un o’r Wardeniaid ar Enlli ac wedi bod yn rhan o’r broses ymgeisio am y statws, dywedodd: “Fel rhywun sy’n byw yma, rydw i wastad yn cael fy syfrdanu gan harddwch yr ynys – ac mae awyr y nos yn rhan fawr o hynny. Yn dilyn sicrhau’r dynodiad newydd, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i’r ynys dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf i ni fedru rhannu ein stori unigryw gyda nhw. Roedden ni’n gwybod ein bod yn byw mewn lle arbennig, mae’r statws yma yn cadarnhau hyn, gyda’r Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn gosod Enlli yn gadarn ar lwyfan rhyngwladol. Mewn byd sy’n wynebu llygredd cynyddol, mae’n fraint gallu gweithio tuag at ddiogelu rhywbeth mor arbennig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Derbyniodd y cais gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â nifer o leoliadau Awyr Dywyll eraill yng Nghymru gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cymuned Aberdaron, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â phrosiect NOS (prosiect awyr dywyll leol), cymdeithasau seryddiaeth a Chyngor Gwynedd.

Yn dilyn sicrhau statws IDSS, mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn bwriadu parhau â’r gwaith i warchod yr awyr dywyll sydd i’w weld o Enlli, trwy godi ymwybyddiaeth o’r lleoliad unigryw, yn ogystal â hyrwyddo pwysigrwydd awyr dywyll yn lleol ac yn genedlaethol.

Enlli_DarkSky_StevePorter2.jpg
Enlli_DarkSky_StevePorter5.jpg
Enlli_DarkSky_StevePorter1.jpg
Ymholiadau cyfryngau

Llinos Iorwerth, Ateb (ar ran Ynys Enlli) ar llinos@atebcymru.wales / 07970 997124

Ashley Wilson, Cyfarwyddwr Cadwraeth, Y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol ashley@darksky.org / +1 520-347-5804

Gwybodaeth pellach am Enlli

Am wybodaeth bellach:

Os am aros dros nos yn Enlli, mae'r llety sydd ar gael i weld yma. 

I fynd i Enlli am y dydd: cysylltwch â Colin Evans ym Mordaith Llŷn

I gefnogi Ymddiriedolaeth Ynys Enlli drwy ymaelodi, ewch yma. 

Enlli_DarkSky_StevePorter4.jpg
Enlli_DarkSky_StevePorter6.jpg

Lluniau © Steve Porter

bottom of page