top of page

Gwelwch isod bywgraffiadau'r ymddiriedolwyr. 

Enlli Sian_edited_edited.jpg
Siân Stacey - Cadeirydd

Mae wedi bod yn fraint bod yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ers hanner olaf 2020 ac rwyf wedi mwynhau gweithio gyda grŵp gwych o gyd-ymddiriedolwyr a staff, yn ogystal â chymuned ehangach yr ynys. Mae gen i wybodaeth ymarferol fanwl am Enlli, wedi byw yno a gweithio fel warden am dair blynedd, ac ers hynny yn ymddiriedolwr ers 4 blynedd. Yn fy mywyd gwaith proffesiynol, rwy’n Rheolwr Prosiect ar bartneriaeth fawr, rhaglen adfer natur yng nghanolbarth Cymru sy’n ymwneud â meithrin perthynas gyda sefydliadau a rhanddeiliaid lleol, cyrchu a sicrhau incwm cyllid a chyflawni prif amcanion y prosiect. Rwyf wedi cwblhau sawl cymhwyster a chyrsiau arweinyddiaeth, o Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy o Brifysgol Met Caerdydd yn 2016, i fod yn un o garfan Arweinyddiaeth Gymdeithasol Clore ar gyfer arweinwyr cymdeithasol Cymru yn 2021/22 yn fwy diweddar. Rwyf hefyd yn gynghorydd cymuned ar gyfer fy ward leol yn Llancynfelyn yng Nghanolbarth Cymru.

 

Jacquie Jones - Is-Gadeirydd

Mae fy nghartref yn Llŷn, lle mae fy nheulu wedi byw ers dros canrif. Fel llawer o'm cwmpas, rwy'n teimlo affinedd arbennig, parch a diddordeb yn Enlli. Ar ôl ymweld â’r ynys sawl gwaith, credaf yn gryf ei bod yn bwysig amddiffyn a datblygu harddwch naturiol yr ynys a’i bywyd ysbrydol, artistig, diwylliannol ac economaidd yn sympathetig.

Mae fy nghefndir yn y diwydiant twristiaeth y bûm yn gweithio ynddo am ychydig dros 16 mlynedd mewn sawl swydd uwch. Ar ôl seibiant gyrfa i fagu fy nheulu, dychwelais i weithio'n lleol ond y tro hwn yn y sector elusennau. Ar hyn o bryd rwy'n rheoli'r codi arian ledled Cymru ar gyfer Cŵn Tywys i'r Deillion.

Fy rôl bresennol yw meddwl yn strategol er mwyn sicrhau ein bod yn codi incwm cynaliadwy. Rwy'n rheoli rhwydwaith grwpiau codi arian (20 grŵp gyda thua 300 o wirfoddolwyr) ac rwy'n gyfrifol am gychwyn ymgyrchoedd, recriwtio, hyfforddi a mentora. Rwyf hefyd yn monitro ac yn ymateb i berfformiad ariannol ac yn sicrhau ein bod yn dilyn llywodraethu cywir. Rydym yn gweithio fel tîm effeithiol ac yn cael hwyl. Yn ogystal â rheoli'r grwpiau, rwy'n datblygu ac yn cynnal perthnasoedd gwaith da gyda chefnogwyr presennol a newydd, sefydliadau lleol, busnesau, grwpiau cymunedol ac ysgolion.

Yn fy amser hamdden rwy'n parhau i fwynhau teithio, mae gen i ddiddordeb mawr yn y celfyddydau gweledol, dawns a darllen. Rwy'n Ysgrifennydd grŵp eglwysi Nefyn ac yn helpu gyda'r adran ieuenctid yng nghlwb hwylio Pwllheli. Rwy'n hapusaf yn rhannu pryd o fwyd gyda theulu a ffrindiau.

Helen Wilcox​ - Cadeirydd Pwyllgor Ysbrydolrwydd

Rwy'n athro ererita Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, gyda diddordeb oes mewn ysgrifennu defosiynol, yn enwedig gwaith beirdd megis George Herbert a R S Thomas. Gyda'm gŵr Allan, yr wyf wedi bod yn ymweld ag Enlli ers i ni symud i Ogledd Cymru yn 2006, ac mae Allan wedi bod yn gaplan ynys bob blwyddyn ers 2011. Rydym yn arbennig o ymrwymedig i hanes ysbrydolrwydd a phererindod yr ynys; rydym hefyd yn mwynhau darganfod rhyfeddodau ei thirwedd, y fflora a'r bywyd adar.

Yn ôl gartref, fi yw warden eglwys ganoloesol Peris Sant, wedi'i chuddio o dan lethrau'r Wyddfa yn ein pentref bach Nant Peris. Yn ogystal â bod yn hoff o lenyddiaeth o bob math, mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes a'r celfyddydau gweledol, ac rwy'n gobeithio cyfrannu at rôl ddiwylliannol yr Ymddiriedolaeth. Mae Allan a minnau hefyd wrth ein bodd yn creu cerddoriaeth: mae Allan yn chwaraewr bas jazz, tra fy mod i'n bianydd a sielydd. Unwaith medrais gael aelodau fy mhedwarawd llinynnol ar yr ynys i chwarae trefniadau caneuon gwerin Cymraeg yn y lleoliad mwyaf ysbrydoledig hwnnw - bythgofiadwy!

Robert Townsend

Roedd dydd Sul, 31 Awst 2008, yn ddiwrnod pwysig iawn ym mywyd Robert Townsend. Nid yn unig oedd 'bywyd yn dechrau' y diwrnod hwnnw, ond yn bwysicach na hynny, dyma'r tro cyntaf iddo fo a'i deulu troedio ar Enlli! Ers hynny, maent wedi bod yn ôl bron bob blwyddyn am eu gwyliau (gan annog eraill i ddod hefyd!). Mae Robert a'i deulu'n caru'r gymysgedd o ddianc oddi wrth brysurdeb bywyd bob dydd gyda rhyfeddodau'r adar, y blodau, morluniau a'r machludiadau haul. Yn wreiddiol o Swydd Lincoln, daeth Robert i'r Brifysgol ym Mangor ym 1986 ac arhosodd! Mae wedi dysgu’r Gymraeg, a bellach mae’n rhugl. Mae Robert yn offeiriad sy’n gweithio yn Esgobaeth Bangor fel Ficer Bro Seiriol (Biwmares, Ynys Môn). Ar hyn o bryd mae'n Is-Gadeirydd yr ymddiriedolwyr ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Ysbrydolrwydd.

Sarah_Purdon.jpg
Sarah Purdon

Cefais fy magu yng nghanolbarth Cymru yn agos at y môr, yn edrych allan i gyfeiriad Enlli. Ar ôl graddio o Brifysgol East Anglia gyda gradd mewn Ecoleg, dychwelais i Gymru gyda chyfnod byr yn gwirfoddoli ar ynys Sgomer. Felly y dechreuodd fy ngharwriaeth ag ynysoedd Cymru. Roeddwn yn byw ac yn gweithio ar Sgomer fel Warden Cynorthwyol yn 2017, 2018 a 2019, felly rwy’n gyfarwydd iawn â’r heriau a’r gwobrau o fyw ar yr ynysoedd pwysig hyn a gofalu amdanynt, yn enwedig ar gronfeydd cyfyngedig!

Symudais oddi ar Sgomer er mwyn dychwelyd i ganolbarth Cymru, gan barhau i weithio i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, bellach fel swyddog gwiwerod coch y canolbarth. Rwy'n awyddus i barhau i ymwneud ag ynysoedd Cymru ac rwyf yn edrych ymlaen at ddod i adnabod Enlli cystal ag yr wyf yn adnabod Sgomer.

dot_tyne.jpg
Dot Tyne

Cwta ddwyawr o ymweliad brysiog â Thŷ Pellaf gyda golwg i’w wneud yn gartref i mi oedd fy mhrofiad cyntaf o Enlli. Bu Tim a minnau’n byw ar yr ynys rhwng 1994 a 1998, yn gwarchod y praidd defaid ac yn chwarae rhan ganolog yn y gymuned, gan briodi a dechrau teulu yn ystod y cyfnod. Mae gweithio fel gwirfoddolwr ochr yn ochr â fy merched mewn blynyddoedd diweddar wedi ail-gynnau fy nghyswllt â’r ynys, a gyda fy mhlant bellach bron yn oedolion, mae gen i fwy o amser i fynd ar drywydd y diddordeb hwn.

Yn ogystal â magu teulu a sefydlu busnes amaethyddol hyfyw ym Mhen Llŷn, rwyf dros y deng mlynedd diwethaf wedi gweithio fel Gweinyddwr, Ysgrifennydd Cwmni a Thrysorydd i nifer o sefydliadau aelodaeth ac elusennau o gryn faint. Gyda chyfanswm aelodaeth o dros 1000 o unigolion, mae gennyf brofiad helaeth o sut i redeg a rheoli sefydliadau dielw.

Roeddwn yn ifanc iawn yn ystod fy nghyfnod ar Enlli, ac roedd yn un o gyfnodau ffurfiannol fy mywyd. Fe elwais yn fawr o’r brofiad, ac fe’m siapiodd i’r person ydw i heddiw. Bellach, fe hoffwn innau roi rhywbeth yn ôl, ac fe deimlaf fod gwasanaethu ar y Cyngor yn un ffordd o wneud hynny, yn ogystal â pharhau i wneud fy rhan fel gwirfoddolwr rheolaidd. Rwyf yn angerddol dros barhad Enlli fel cymuned iach ac hyfyw, er bychan o ran maint; a dyma un o’r pethau hynny sy’n gwneud y lle yn un mor arbennig. Fy ngobaith yw bod edrych ar yr ynys mewn modd holistaidd – gan gynnal parch tuag at bob edefyn buddiant sy’n creu’r cyfan – yn safbwynt gadarnhaol all gynnig budd a chymorth i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn ei gwaith.

Philip_Owen.jpg
Philip Owen - Trysorydd

Cymro ydw i, o gymuned wledig yn y gogledd, ac wedi ymweld, ac wedi caru Penrhyn Llŷn ers dros 40 mlynedd. Mae gen i gysylltiad personol â'r ardal; mae fy mrawd yng nghyfraith yn parhau i ffermio ym Moduan.

Ar ôl graddio o'r brifysgol, hyfforddais fel cyfrifydd siartredig a gweithiais yn y proffesiwn am 12 mlynedd. Wedi hynny ymunais â'r Comisiwn Ewropeaidd ac rwyf wedi gweithio mewn sawl maes polisi. Yn ystod rhan olaf fy ngyrfa Ewropeaidd, wnes reoli timau sy'n ymwneud â materion amgylcheddol a pholisi hinsawdd megis trafnidiaeth ffyrdd a thanwydd, ansawdd aer, nwyon fflworin yn ogystal â materion ariannu prosiectau.

Rwyf am rannu fy ngwybodaeth ariannol ac amgylcheddol a hinsawdd gyda'r Ymddiriedolaeth a'i helpu i symud ymlaen i adeiladu cynllun gwyrdd ar gyfer Enlli. Rwy’n cydnabod y rhwystrau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a fydd yn codi ac mae gennyf gymhelliant i helpu’r Ymddiriedolaeth i’w goresgyn.

Lona Williams.jpg
Lona Williams

Cefais fy ngeni a'm magu yn yr ardal leol, ac mae gen i ddiddordeb mawr yn Ynys Enlli. Braint fawr yw cael y cyfle i gefnogi'r ymddiriedolaeth.

Rwy'n gweithio fel Partner Busnes Rhagoriaeth Gweithredol Rhanbarthol ar gyfer sefydliad gwyliau ledled y DU. Rwyf wedi gweithio i'r cwmni ers dros 13 mlynedd mewn swyddi rheoli. Mae fy rôl yn cynnwys cefnogi adran y sefydliad trwy newid busnes a drwy feddwl yn strategol. Mae'r newid busnes yn cynnwys effeithlonrwydd, sgiliau allweddol rheolwyr unigol, perfformiad ariannol trwy reoli costau a chyflogau, ac adeiladu cynhyrchiant cynaliadwy yn nyfodol yr adran. Mae gennyf brofiad o ymweld â safleoedd ac archwiliadau. Rwyf hefyd yn cefnogi hyfforddiant, trwy gynnal diwrnod hyfforddiant gweithdy neu un i un.

Llun_edited.jpg
Alwyn Jones

Rwyf yn fab fferm ac yn byw yn Llanuwchllyn. Fe’m hyfforddwyd yn wreiddiol fel peiriannydd mecanyddol. Ymunais ac Adran Briffyrdd Cyngor Sir Gwynedd yn 1975. Yn 2002 fe’m penodwyd yn Bennaeth yr Adran Adnoddau Dynol, gyda chyfrifoldeb am holl faterion staffio’r Cyngor. Yn y gorffennol bûm yn cyflwyno sawl rhaglen deledu gan gynnwys y darllediadau byw cyntaf o Sioe Amaethyddol frenhinol Cymru. Rwyf yn  Ynad Heddwch, aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Godre’r Berwyn, Cwmni Theatr Bara Caws, Cyngor Cymuned Llanuwchllyn a Chwmni Pum Plwy Penllyn.

Ers i mi ymddeol o’r cyngor yn 2018, rwyf wedi cael cyfle i ymweld ag Enlli ar sawl achlysur ac wedi disgyn mewn cariad a’r Ynys unigryw hon. Rwyf yn ymwybodol o’r heriau ar sialensiau sy’n gysylltiedig â chynnal, cadw a datblygu’r Ynys a chredaf fod gennyf amrediad o sgiliau a phrofiad fyddai o gymorth i gyngor Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.  

enlli.jpg
Dilwyn Morgan

‘Rwyf yn enedigol o Garnfadryn ble cefais fy magu ar dyddyn bychan. Yn dilyn cyfnod yn y Llynges Fasnach fel Swyddog bum yn ddirprwy bennaeth Gwersyll yr Urdd Glan Llyn ac wedyn yn Warden Llyn Tegid gyda Pharc Cenedlaethol Eryri cyn symud ymlaen i amrywiol swyddi i gyd yn ymwneud a rheoli.

Rwyf yn aelod o Gyngor Gwynedd ac yn aelod Cabinet tros y Gwasanaeth Plant a Chefnogi teuluoedd. Rwyf hefyd yn ymddiriedolwr Canolfan Blant Y Bala ac yn Llywodraethwr Ysgol Godre’r Berwyn a Chadeirydd grŵp cyswllt y trydydd sector yng Ngwynedd.

Fy niddordebau yw hwylio, beicio cerdded a darllen llyfrau teithio.

Mae Enlli  yn bwysig imi ers blynyddoedd lawer ac yn ddiweddar rwyf wedi bod yno  gyda fy ŵyr sydd â diddordeb mawr mewn bywyd gwyllt. Braint aruthrol yw cael cyfrannu i sicrhau dyfodol cynaliadwy, ffyniannus a chadarn i'r gymuned yn Enlli.

Membership

 

 

Support the work of the Bardsey Island Trust by joining as a member and being part of the future of the island.  

Volunteer

 

 

Join our team of committed volunteers and experience working on a remote welsh island.

Donate

 

 

Donate to the Bardsey Island Trust to support the vital work of preserving and protecting the future of Bardsey.

bottom of page