
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn gyfle i gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth ar Ynys Enlli sy'n cynnal tir ac adeiladau'r ynys a gwarchod ei bywyd gwyllt a’i harddwch naturiol. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i ymweld ag aros ar yr ynys tu hwnt i’r tymor gwyliau, neu i gael treulio cyfnod hir ar yr ynys yn ystod y tymor. Am eich llety ar yr ynys, mae disgwyl i chi weithio hyd at 5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Ewch amdani, gwnewch gais heddiw!
Gwirfoddolwyr Cyn ag ar ôl y Tymor (Chwefror-Mawrth, Hydref)
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno gyda’r tîm ar yr ynys o ganol Chwefror i ddiwedd Mawrth. Rydym yn chwilio am unigolion neu grŵp o wirfoddolwyr i ddod i helpu ail agor y tai yn barod at y tymor gwyliau. Mae yna lawer o waith glanhau, peintio a pharatoi i’w wneud yn yr wythnosau yma- felly croeso i chi ymuno am wythnos neu fwy. Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno gyda ni bob mis Hydref, ar ôl y tymor gwyliau orffen, er mwyn paratoi’r ynys at y Gaeaf.

Gwirfoddolwyr Hir Dymor (Ebrill-Medi)
Rydym yn edrych am wirfoddolwyr hir dymor i gynorthwyo yn ystod y tymor gwyliau. Mae tymor gwyliau Ynys Enlli yn rhedeg rhwng dechrau Ebrill a diwedd Medi, ag mi rydym yn edrych am unigolion neu gwpwl o ffrindiau/partneriaid i ymuno gyda’r tîm am 3-8 wythnos ar y tro. Mi fyddwch yn helpu gydag amryw o dasgau megis glanhau a thorri gwair.

Gwirfoddolwyr Crefftus (Chwefror-Hydref)
Os oes gennych chi sgiliau penodol yn un o'r pethau isod rydym â diddordeb arbennig mewn clywed gennych.
-
Gwaith Saer
-
Gwaith calch, pwyntio, plastro, rendro
-
Codi waliau cerrig sych
-
Gwaith toi
-
Sgiliau gwaith tai cyffredinol
Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio i wirfoddoli gyda ni, cwblhewch y ffurflen gais a anfonwch i'r e-bost/cyfeiriad post ar ddiwedd y ffurflen. Cysylltwch â bardseyenlli@gmail.com os oes gennych unrhyw gwestiynau.