top of page

Newyddion

Accommodation Wardens 2024

A very warm welcome to Lois and Aron who have begun their new jobs as Accommodation Wardens on Bardsey for 2024. We hope you enjoy the adventure ahead!

Holiadur Ymgysylltu Ynys Enlli

Oes gennych funud i'n helpu drwy cwblhau'r holiadur yma? Dewisiwch "Cymraeg" o'r blwch at y dde/top.  Diolch yn fawr i chi!

Chwefror 2024 - Cyfleoedd Artistiaid Preswyl

Bydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn cynnig cyfleoedd i Artistiaid Preswyl weithio yn Enlli yn ystod gwanwyn a haf 2024. Rydym yn chwilio am artistiaid profiadol a rhai sy’n datblygu o unrhyw ddisgyblaeth artistig sydd â chysylltiad efo Gwynedd, gogledd Cymru. Rhaid i’r gwaith ymateb i’r iaith Gymraeg, diwylliant, ecoleg, amgylchedd a threftadaeth hanesyddol Gwynedd neu Ynys Enlli. Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael eu gwahodd i dreulio hyd at 4 wythnos ar yr ynys, mewn llety hunan-arlwyo a stiwdio.

DYDDIAD CAU 29 Chwefror 2024. (wedi cau)

I ymgeisio, neu os oes gennych gwestiynau cyn gwneud y cais, cysylltwch os gwelwch yn dda efo: celfenlli@gmail.com  

Ariennir trwy gronfa (SPF)  Diwylliant, Cyngor Gwynedd.

Carol Artist Preswyl Ynys Enlli .png

Chwefror 2024 - Amseroedd Cyffroes i Ddod!


Mae Loteri Treftadaeth wedi darparu grant o £246,000 i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (YYE) er mwyn ariannu sawl prosiect diddorol dros y tair blynedd nesaf. Mae’r arian yma hefyd wedi galluogi’r YYE i gyflogi Swyddog Prosiect sef Gwenllian Hughes a Rheolwr Adeiladau Cadwraeth sef Owen Rickards. Nod y prosiectau yma yw denu mwy o bobl at yr ynys, a rheini o ddemograffeg wahanol sydd heb gael cyfle i brofi heddwch unigryw Ynys Enlli.
Mae sawl prosiect dan sylw:
1.    Brenin Enlli a phrosiectau Diaspora
2.    Treftadaeth Hanesyddol, Grefyddol ac Ysbrydol
3.    Hanes Llafar a Lluniau
4.    Cynhwysiant Cymdeithas a Threftadaeth
5.    NoddfaAwyr Dywyll a Phrosiect Gwe-gamera
6.    Treftadaeth addysgol ac ymgyslltiol

 

Mae’r prosiectau yma am gynnwys cydweithrediad sawl sefydliad gan gynnwys ysgolion lleol fel Ysgol Crud y Werin yn Aberdaron. Bydd sawl digwyddiad yn cael eu trefnu dros y tair blynedd nesaf yn seilio ar bob prosiect, a rheini yn cael eu trefnu ar y tir mawr o amgylch Pen Llŷn. Prosiect sydd yn peri cyffro yw prosiect Noddfa Awyr Dywyll. Rydym yn edrych ymlaen at drefnu’r digwyddiadau yma sydd am ddathlu ein statws NEWYDD ni!


Nod y Rheolwr Adeiladau Cadwraeth fydd i gynllunio, adfer ac i gynnal treftadaeth adeiladol yr ynys. Mae sawl adeilad cadwedig ar yr ynys, ac maent angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd gan eu bod nhw’n agored i elfennau’r môr.
Dywedodd Jacquie Hughes-Jones (Cadeirydd mewn gofal, Ymddiriedolaeth Ynys Enlli) "Mae hi’n amser cyffrous i Enlli wrth i ni adeiladu ar gryfderau ein pobl a thyfu ein tîm. Y flwyddyn nesaf a’r blynyddoedd i ddilyn, byddwn yn symud yn agosach at ein huchelgais o fod yn ‘arddangosiad o fywyd ynys draddodiadol Cymraeg’ drwy adfer ein hadeiladau a’n adeiladwaith a chysylltu gyda’r gymuned leol ehangach. Rydym yn hynod o ddiolchgar am y grant yma ac edrychwn ymlaen at gydweithio tuag at ddiogelu Ynys Enlli fel bod y cenedlaethau nesaf yn gallu mwynhau, ennill bywoliaeth a rhyfeddu yn ei natur, diwylliant ac ysbrydolrwydd."


Edrychwn ymlaen at groesawu chi i Enlli ac yn gobeithio gwnewch chi fwynhau bod yn rhan o’r prosiectau newydd yma. Mae yna rywbeth i ddiddori pawb ar Ynys Enlli!

Gwenllian Hughes

Owen Rickards

Ionawr 2024 - Adnewyddu'r Storws

Galluogodd cyllid gan yr AHF ar gyfer gwaith cyfalaf a ffioedd, yn ogystal ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn, Cyngor Gwynedd, yr Ymddiriedolaeth i benodi’r Original Roofing Company i adfer ac atgyweirio to a chragen adeilad Storws. Dechreuodd y gwaith ym mis Mai 2023 a chafodd ei gwblhau erbyn mis Hydref yr un flwyddyn. Darlenwch mwy yma >>>

Aelodaeth

 

 

Cefnogwch waith yr Ymddiriedolaeth drwy

ymaelodi a bod yn rhan o ddyfodol yr ynys. 

Gwirfoddoli

 

 

Ymunwch gyda'n tîm o wirfoddolwyr a dewch i gael blas ar weithio ar ynys anghysbell.

Cyfrannu

 

 

Cefnogwch waith pwysig yr Ymddiriedolaeth drwy gyfrannu heddiw i sicrhau dyfodol Enlli.

bottom of page